Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cael gwared ar folardiau canol tref

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn tynnu rhai o'r bolardiau lled-barhaol o ganol trefi wrth i'r mesurau i gadw pobl yn ddiogel yn yr ardaloedd hyn gael eu mireinio.

 

  • Dydd Gwener, 21 Mis Awst 2020

    Bro Morgannwg



Gydag ymwelwyr yn dychwelyd i'r stryd fawr, mae'r mesurau hyn wedi'u haddasu gyda phrofiad ac i wneud lle i fusnesau lletygarwch.


Mae'r Cyngor hefyd wedi darparu £500,000 ar gyfer uwchraddio gwaith i bob un o'r pum tref yn y Fro ac mae cwmni o ddylunwyr trefol wedi'u comisiynu i argymell ffyrdd o wella'r lleoliadau hyn.

 

Civic

Fodd bynnag, er gwaethaf y newidiadau hyn, mae'n bwysig pwysleisio nad yw’r Coronafeirws wedi diflannu felly mae mesurau ymbellhau cymdeithasol a golchi dwylo'n aml yn parhau i fod yn bwysig.

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae'r mesurau diogelwch a gyflwynir i ganol trefi yn cael eu hadolygu'n gyson ac yn agored i newid wrth i ni ddysgu mwy am y feirws.


"Mae ein dull gweithredu yn cael ei ddylanwadu gan y cyngor meddygol diweddaraf a'r ddeialog barhaus sy'n digwydd gyda busnesau canol trefi.


"Byddwn yn parhau i symleiddio ein hymateb i'r feirws fel rhan o'r broses ddysgu hon.


"Fodd bynnag, rwyf am ei gwneud yn gwbl glir bod y Coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad mawr ac mae'n bwysig bod preswylwyr yn parhau i ddilyn canllawiau diogelwch."