Cost of Living Support Icon

 

Preswylwyr Bro Morgannwg yn cael eu hannog i sicrhau eu bod wedi cofrestru i bleidleisio 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog trigolion i sicrhau bod eu manylion o ran cofrestru i bleidleisio yn gywir fel y gallant gymryd rhan yn yr etholiadau nesaf.

 

  • Dydd Mawrth, 04 Mis Awst 2020

    Bro Morgannwg



Os nad yw gwybodaeth o'r fath yn gyfredol, efallai na fydd gan unigolion lais yn y penderfyniadau pwysig sy'n effeithio arnynt. 


Gydag etholiadau lleol yn cael eu cynnal yn Senedd Cymru ym mis Mai 2021, dyma gyfle pwysig i drigolion sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan.


Mae'r canfasiad blynyddol yn sicrhau bod Cyngor Bro Morgannwg yn gallu cadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, a chanfod unrhyw drigolion nad ydynt wedi'u cofrestru fel y gellir eu hannog i wneud hynny. Byddant wedyn yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw etholiadau yn y dyfodol.


Mae hyn yn cynnwys y bobl hynny sydd newydd eu rhyddfreinio. Etholiadau Senedd y flwyddyn nesaf fydd y tro cyntaf i bobl ifanc 16-17 oed a dinasyddion tramor cymwys allu pleidleisio. Felly mae'n bwysig iawn dal y grwpiau hyn yn y gofrestr etholiadol.   

CivicDebbie Marles,Dywedodd Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Cyngor Bro Morgannwg hyn: “Mae'n bwysig bod preswylwyr yn edrych am negeseuon gan Cyngor Bro Morgannwg, fel y gallwn sicrhau bod gennym y manylion cywir ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn Bro Morgannwg. Er mwyn sicrhau eich bod chi'n gallu dweud eich dweud mewn etholiadau a gynhleir y flwyddyn nesaf, dilynwch y cyfarwyddiadau gan eich awdurdod lleol. 


“Os nad ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos yn y negeseuon a anfonwn. Os ydych am gofrestru, y ffordd rwyddaf yw mynd ar-lein i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio, neu byddwn yn anfon gwybodaeth atoch yn esbonio sut i wneud hyn drwy'r post.


“Mae canfasio eleni, y mae'n rhaid i ni ei gyflawni yn ôl y gyfraith, yn digwydd yn ystod sefyllfa iechyd cyhoeddus heriol. Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn ystyried canllawiau iechyd cyhoeddus, gan gynnwys pwysigrwydd parhaus pellhau cymdeithasol."


Anogir pobl sydd wedi symud yn ddiweddar i gadw llygad am y negeseuon cofrestru pleidleiswyr gan Cyngor Bro Morgannwg a gwirio'r manylion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol yn nodi bod y rhai sydd wedi symud ty yn ddiweddar yn llawer llai tebygol o fod wedi'u cofrestru na'r rheiny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am amser hir.

 

Dangosodd yr ymchwil fod 92% o bobl ledled Prydain Fawr sydd wedi bod yn eu heiddo am fwy nag un flwyddyn ar bymtheg wedi'u cofrestru, o gymharu â 36% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad am lai na blwyddyn.

Dywedodd Rhydian Thomas, pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru: “Mae'n bwysig iawn bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio yn gallu gwneud hynny. Bellach mae gan fwy o bobl yr hawl i bleidleisio yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc 16-17 oed a dinasyddion tramor cymwys.

 

 

"Bydd sicrhau eich bod yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol i'ch awdurdod lleol pan fydd ei hangen yn sicrhau bod y broses yn un esmwyth. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol yn y sefyllfa iechyd cyhoeddus bresennol, gan y bydd yn helpu i osgoi'r angen i ganfaswyr ymweld â'r cartref.


"Mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â chofrestru i bleidleisio ar ein gwefan www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr."

Gall unrhyw un sydd â chwestiynnau gysylltu â'r tîm etholiadau lleol yn electoralregistration@valeofglamorgan.gov.uk