Cost of Living Support Icon

 

Llythyr agored gan y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Phartneriaid Bwrdd Iechyd

Dyma Rybudd am y Coronafeirws, mae achosion ym Mro Morgannwg yn cynyddu’n gyflym 

 

  • Dydd Gwener, 18 Mis Rhagfyr 2020

    Bro Morgannwg



Annwyl Breswylydd, 


Ni allai'r niferoedd cynyddol o achosion Covid-19 ar draws ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a Bro Morgannwg fod yn fwy difrifol na brawychus.  


Felly, mae angen gweithredu ar y neges hon ar frys a’i hystyried yn rhybudd i bob un ohonom am ddifrifoldeb y sefyllfa iechyd yr ydym i gyd yn ei hwynebu'n awr. 


Os bydd yr amcanestyniadau presennol yn parhau, yna erbyn wythnos y Nadolig byddwn yn gweld mwy na phedair gwaith nifer yr heintiau newydd bob dydd ag yr oeddem yn ei weld ddechrau mis Rhagfyr. Y ffigurau rhagamcanol hyn yw'r uchaf a welsom erioed yn y Sir hon ac maent yn debygol o gyrraedd bron i 1,000 o achosion fesul 100,000 yn y cyfnod o saith diwrnod cyn Dydd Nadolig.  Os cymharwch hynny â'r ffigur o 50 achos fesul 100,000 pan ddechreuodd y cyfnod cloi lleol cyntaf, mae difrifoldeb y sefyllfa bresennol yn glir i’w weld.  Ni allwn fod yn hunanfodlon mwyach. 


Gwyddom o'r don gyntaf a'r ail, wrth i nifer yr achosion gynyddu, fod mwy o bobl yn mynd yn ddifrifol wael, a byddwn, yn anochel, yn gweld mwy o farwolaethau yn sgil y Coronafeirws. Gellir osgoi llawer ohonynt os byddwn yn gweithredu nawr.


Rydym yn poeni yn fawr iawn bod ysbytai a gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg bellach dan bwysau anghynaladwy oherwydd COVID-19, ac yn anffodus mae nifer y bobl sy’n mynd yn sâl iawn yn cynyddu bob dydd. 


Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu nawr.  Rhaid i bob un ohonom ddilyn rheoliadau coronafeirws Llywodraeth Cymru, ond os gallwch gymryd camau pellach hefyd i ddiogelu'ch anwyliaid, yna rydym yn eich annog i wneud hynny. 


Ni ddylem gwrdd ag unrhyw un y tu allan i’n swigen aelwyd a dylem gadw ein cysylltiad â phobl y tu allan i'n haelwyd i’r cyswllt lleiaf posibl nes bod y bygythiad presennol wedi mynd heibio, ond yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig.


Gwn y bydd peidio â gweld eich anwyliaid yn boenus i lawer, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, ond os gwnawn hyn nawr, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein teulu a’n ffrindiau ar gyfer y misoedd i ddod.


Gwyddom fod llawer o bobl yn credu y bydd y brechlyn yn dod ar gael yn ehangach, felly bydd popeth yn iawn.  Yn anffodus, nid yw hynny'n wir.  Os na newidiwn ein hymddygiad nawr, bydd llawer o bobl yn marw cyn i'r brechlyn gael ei gyflwyno, pobl nad oes angen iddynt farw, pobl rydych chi’n eu hadnabod.

 

Bydd cyflwyno'r brechlyn yn llawn yn cymryd misoedd lawer, felly nid dyma'r amser i fod yn hunanfodlon. Ychydig iawn ohonom sydd ag imiwnedd ac mae'r feirws yn dal i fod yn gyffredin yn ein cymunedau a'n hysbytai.  Drwy gadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb byddwn i gyd yn gwneud ein rhan i helpu.

 

Felly, mae ein neges yn syml.  

 

  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd neu os na allwch wneud hynny defnyddiwch hylif diheintio.
  • Ceisiwch aros gartref a gadael y tŷ am resymau hanfodol yn unig ac os oes rhaid i chi fynd allan, gwnewch hynny yn ystod cyfnodau tawelach.
  • Os byddwch yn mynd allan, gwisgwch orchudd wyneb pan fo angen a chadwch bellter cymdeithasol o 2 fetr o leiaf, lle bynnag y bo modd. 
  • Peidiwch â chymysgu ag aelwydydd eraill na'ch ffrindiau.  
  • Gweithiwch o gartref os gallwch. 
  • Os byddwch yn datblygu symptomau fel peswch newydd a pharhaus, tymheredd uchel, neu golli blas neu arogl, hunanynyswch gyda'ch aelwyd a threfnwch brawf. 

Gall y camau bach hyn ein helpu ni i gyd i gadw ein cymunedau'n ddiogel.


Fel Bwrdd Iechyd a Chyngor, rydym yn rhoi ein holl adnoddau ar waith i frwydro yn erbyn COVID-19. Mae gwneud hynny'n parhau i fod yn her enfawr, un y byddwn yn ei chyflawni orau gyda'n gilydd, yn union fel y gwnaethom yn y Gwanwyn. 


Rydym yn gofyn i bob un ohonoch gyflawni'r her honno gyda'ch gilydd. 


Gadewch i ni atal y lledaeniad, a chadw Bro Morgannwg, y GIG a'n hanwyliaid yn ddiogel.


Yn gywir, 

 

Y Cynghorydd Neil Moore ArweinyddCyngor Bro Morgannwg
Fiona Kinghorn Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y CyhoeddBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Charles Janczewski 

Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 TTP with Logos