Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cyflwyno parciau pafin ym Mhenarth

BYDD Cyngor Bro Morgannwg yn dechrau gosod parciau pafin mewn rhannau o Benarth yr wythnos nesaf yn rhan o gynllun peilot i helpu busnesau lleol i weithredu o fewn cyfyngiadau’r coronafeirws

 

  • Dydd Llun, 07 Mis Rhagfyr 2020

    Bro Morgannwg

    Penarth



Mae parciau pafin yn estyniad o ofod masnachu i fannau parcio sydd eisoes yn bodoli, ac yn galluogi busnesau i groesawu mwy o gwsmeriaid yn ddiogel.


Mae cyflwyno’r parciau pafin yn dod yn sgil gwaith y Cyngor i gefnogi masnachwyr drwy roi Trwyddedau Masnachu yn yr Awyr Agored dros yr haf.


Ar ôl ymgynghori'n agos ag Adran Briffyrdd y Cyngor ynglŷn â'r safleoedd mwyaf addas ar gyfer parciau pafin, fe fyddan nhw’n cael eu creu yn Stanwell Road, Station Approach a Ludlow Lane.


Bydd angen i bob busnes y dyrennir parc pafin iddo lofnodi cytundeb trwydded masnachu awyr agored cynhwysfawr fydd yn sicrhau ei fod yn gyfrifol am ei reoli ac yn cydymffurfio â holl reoliadau Covid.


Mae'r Cyngor wedi cael arian i gefnogi canol trefi'r Fro yn ystod y pandemig ac wedi penodi'r ymgynghorwyr Roberts Limbrick i nodi cyfleoedd ar gyfer pum ardal siopa y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth, a’r Stryd Fawr a Heol Holltwn yn y Barri.


Mae fforymau gwydnwch yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r canol trefi hyn hefyd wedi eu sefydlu i rannu syniadau a thrafod blaenoriaethau. 

 

parklet2


Penarth yw'r dref gyntaf i gael ei chefnogi drwy'r arian hwn, ond mae cynlluniau'n cael eu datblygu ar gyfer ardaloedd siopa eraill y Fro, gan gynnwys syniadau ar gyfer gosodiadau celf, goleuo a mesurau arafu traffig. 


Bydd gosod y parciau pafin sy'n rhan o'r cynllun peilot yn dechrau ddydd Llun (7 Rhagfyr) a bydd eu heffeithiolrwydd yn cael ei werthuso cyn gwneud penderfyniad ar sut i fwrw ymlaen. 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio:  "Rydyn ni i gyd yn gwybod am y cyfnod anodd mae busnesau lleol, yn enwedig y rhai yn y diwydiant lletygarwch, wedi'i ddioddef ers i'r pandemig daro gyntaf. 


"Fel Cyngor rydyn ni wedi ceisio cynnig cymaint o gymorth â phosibl, boed hynny drwy helpu i brosesu grantiau i gynnig cymorth ariannol neu roi trwyddedau awyr agored i helpu masnachwyr i barhau i weithredu. 


"Rydyn ni hefyd wedi defnyddio arian i benodi arbenigwyr dylunio trefol i nodi meysydd cymorth pellach a chwrdd â busnesau i glywed eu syniadau. 


"Y parciau pafin yw'r fenter fawr gyntaf i ddod o'r gwaith hwnnw. Gobeithiwn y byddant yn creu amgylchedd cyfeillgar a deniadol i ymwelwyr â chanol tref Penarth.  


"Yn anffodus, bydd lleoliad rhai busnesau yn eu gwneud yn anaddas ar gyfer parciau pafin, ac mewn achosion o'r fath byddwn yn ystyried mesurau gwahanol i’w cefnogi nhw a busnesau eraill yn ystod camau diweddarach yr ariannu hwn."