Cost of Living Support Icon

 

Safle profi newydd i agor yn Y Barri

Mae cyfleuster profi COVID-19 newydd yn agor yn y Barri

 

  • Dydd Llun, 14 Mis Rhagfyr 2020

    Bro Morgannwg

    Barri



Bydd y cyfleuster newydd, ar Colcot Road, yn cynnig mynediad hawdd at brofion i'r rhai sy'n byw yn y dref, a dewis amgen i deithio i Gaerdydd ar gyfer poblogaeth ehangach y Fro.

 

Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r Safle Profi Lleol ar 14 Rhagfyr a disgwylir i'r safle profi fod ar agor i'r cyhoedd o ddiwedd yr wythnos hon.

 

Ar hyn o bryd mae 344.3 o achosion fesul 100,000/7 diwrnod o'r boblogaeth yn y Fro, gyda 15.8 y cant o'r rhai a brofwyd yn cael canlyniadau positif.

 

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro: 

"Mae'n hanfodol bwysig bod unrhyw un sy'n dangos symptomau coronafeirws yn hunanynysu ar unwaith, ynghyd â'i aelwyd, ac yn cael prawf. Dyma sut y gallwn atal lledaeniad y feirws. 

 

"Dewiswyd y lleoliad hwn i wneud y broses o gael gafael ar brofion mor hawdd â phosibl i drigolion y Fro.  Nid oes unrhyw risg y bydd y rhai sy'n dod am brawf yn trosglwyddo'r feirws i'r cyhoedd ehangach cyn belled â bod pawb yn parhau i gadw at y canllawiau safonol – cadwch fwy na dau fetr ar wahân, golchwch eich dwylo'n rheolaidd, a gwisgwch orchudd wyneb pan fo angen. 

 

"Mae ein cyfradd achosion yn codi'n gyflym ac mae ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn eithriadol o brysur. Mae'n hanfodol bod pawb sydd angen prawf yn cael un. Dyma'r unig ffordd y gallwn dracio a rheoli’r feirws nes ein bod wedi brechu cyfran sylweddol o'r boblogaeth - gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i amddiffyn ein teuluoedd a'n cymunedau."

Bydd y ganolfan brofi newydd ger Canolfan Hamdden Colcot ond bydd yn gyfleuster cwbl ar wahân. Bydd mynedfa, allanfa a llefydd parcio ar wahân. Bydd y ganolfan brofi yn gweithredu rhwng 8am ac 8pm, saith diwrnod yr wythnos. 

 

Bydd y cyfleuster yn gweithredu trwy fynediad i gerddwyr. Bydd system unffordd ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth â mesurau ymbellhau cymdeithasol bob amser. Gan mai drwy apwyntiad yn unig y mae’r profion, ni ragwelir y bydd nifer fawr o bobl yn mynychu ar unrhyw un adeg. Fodd bynnag, pe bai hyn yn digwydd bydd aelodau o staff wrth law i reoli mynediad yn ddiogel. 

 

Dim ond i’r rhai sydd â symptomau coronafeirws – tymheredd uchel, peswch newydd, parhaus, neu golli neu newid yn y gallu i arogli neu flasu - y bydd y profion ar gael. Gellir trefnu profion yn y ffordd arferol drwy ffonio 119 neu ar-lein yn llyw.cymru/coronafeirws