Cost of Living Support Icon

 

Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd ym Mro Morgannwg

Llythyr Agored gan y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg

 

  • Dydd Mercher, 16 Mis Rhagfyr 2020

    Bro Morgannwg



Annwyl Breswylydd, 

 

Roeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig cysylltu â chi i roi gwybod i chi am yr hyn y mae'r Cyngor wedi bod yn ei wneud mewn perthynas ag Argyfwng y Newid yn yr Hinsawdd a ddatganwyd gennym y llynedd.


Mae ymateb i'r mater hwn yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor, yn enwedig ar ôl i ni ymuno â Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol o bob rhan o'r Deyrnas Unedig i gydnabod difrifoldeb y sefyllfa.


Wrth ddatgan yr argyfwng, ceisiom ni adeiladu ar sylfaen gadarn o waith sydd wedi'i wneud dros nifer o flynyddoedd i fynd i'r afael â her y newid yn yr hinsawdd ym Mro Morgannwg. Dyna pam yr ydym wedi gosod paneli solar ar adeiladau'r Cyngor ac wedi cynyddu'r defnydd o delegynadledda i leihau teithio, gan leihau ein hôl troed carbon. Mae mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn un o nodau canolog y Cyngor ac mae'n parhau felly.


Adlewyrchir yr ymrwymiad hwn hefyd yn ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2020-2025 sy'n cynnwys Amcan Lles sy'n canolbwyntio'n benodol ar yr amgylchedd.  Mae manylion am sut y byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith penodol o fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd hefyd wedi'u nodi yn ein Cynllun Cyflawni Blynyddol.  Felly, mae llawer o waith wedi’i wneud, neu wedi’i gynllunio, i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn ein hardal.   

 

Fodd bynnag, rydym ni’n gwbl ymwybodol y bydd ymateb i'r argyfwng a lleihau ein hallyriadau i sero net cyn 2030 yn gofyn am lawer mwy o waith. 


Ers datgan yr argyfwng hinsawdd, rydym ni wedi cynnal trafodaethau drwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg gyda phobl ifanc ac eraill o bob rhan o'r Fro i gael gwybod am y materion amgylcheddol allweddol sy'n bwysig iddynt. 

 

Yn yr un modd, rydym ni wedi cynnal cyfres o weithdai gyda'n staff sydd wedi helpu i nodi'r cyfleoedd i ni weithredu dulliau mwy arloesol o fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd.  Yr hyn sy'n amlwg o'r trafodaethau hyn yw bod cyfoeth o wybodaeth yn ein cymunedau ac ar draws y sefydliad, ac awydd gwirioneddol i gofleidio'r mathau o newidiadau, bach a mawr, sy'n angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hwn. 


Fodd bynnag, pan oeddem ni wrthi’n creu ein hymateb sefydliadol i’r argyfwng hinsawdd hwn, fel y gwyddoch chi, datblygodd argyfwng arall.   

 

Dros y naw mis diwethaf, mae pandemig y coronafeirws wedi’i gwneud yn ofynnol i ni ganolbwyntio ar gadw cymunedau yn y Fro yn ddiogel ac yn iach, ac er ein bod yn gwybod bod y pandemig yn parhau i gael effaith ar ein bywydau i gyd, rhaid i ni gydnabod y bydd yr argyfwng hinsawdd yn dal yn broblem y mae'n rhaid i ni ei hystyried. 

 

Wrth ddatblygu ein Strategaeth Adfer y coronafeirws, rydym ni wedi nodi bod yr angen i ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd yn flaenoriaeth bwysig.  Er mwyn mynd i’r afael ag ef, bydd angen y ffocws a’r cydweithrediad yr ydym wedi’u gweld ym Mro Morgannwg a ledled Cymru wrth ymateb i’r pandemig. 

 

Y mis hwn, gwnaethom ni ymuno â phartneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru a Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg, i gytuno ar Siarter Argyfwng Hinsawdd ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg. 


Rydym ni nawr yn gobeithio dechrau sgwrs ar ein hymateb i'r mater pwysig hwn gyda chi.  Dros y mis nesaf, byddwn ni’n dechrau sgwrs ar y mater hwn drwy'r cyfryngau cymdeithasol a byddwn ni’n lansio arolwg ar-lein hefyd.  Diben hyn yw rhannu’r gwaith da sydd wedi’i wneud hyd yn hyn a gofyn am eich help a’ch syniadau o ran beth arall y gallem ni fod yn ei wneud. 

 

Mae ein gwaith i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn parhau, er enghraifft drwy gadarnhau'n ddiweddar ein bod am adeiladu'r ysgolion carbon net-sero cyntaf yng Nghymru. 

 

Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd ddechrau 2021, a fydd yn adlewyrchu eich adborth.  Rydym am iddo fod yn ddogfen ‘fyw’ a fydd yn datblygu mewn ymateb i heriau a chyfleoedd yn y dyfodol, gan sicrhau bod y Cyngor mewn sefyllfa dda er mwyn ymateb i’r argyfwng hwn wrth iddo ddatblygu.

Gallwch ddarllen mwy am y Cyllun a llenwi'r arolwg arlein.

 

Arolwg Cynllun Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd