Cost of Living Support Icon

 

Datganiad gan y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd y Cyngor 

Ddydd Llun, cyhoeddodd y Prif Weinidog gyfres o newidiadau i'r mesurau cenedlaethol sydd ar waith i atal lledaeniad COVID-19 yng Nghymru

 

  • Dydd Mawrth, 01 Mis Rhagfyr 2020

    Bro Morgannwg



O 6pm ddydd Gwener, ni fydd tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn gallu gwerthu alcohol i'w yfed ar y safle ar unrhyw adeg a bydd rhaid iddyn nhw hefyd gau erbyn 6pm.  Bydd lleoliadau adloniant dan do ac atyniadau ymwelwyr dan do hefyd yn cau.     

 

Bydd hyn yn golygu newid mawr arall yn y ffordd rydym i gyd yn byw ein bywydau.  


Mae effaith y cyfyngiadau newydd ar wasanaethau'r Cyngor yn gyfyngedig ond bydd yn effeithio ar rai.   Byddwn yn adolygu'r rhain yn ystod yr wythnos er mwyn sicrhau bod trefniadau gwahanol yn cael eu rhoi ar waith lle bynnag y bo modd.   


Fel Cyngor byddwn wrth wraidd yr ymdrech genedlaethol i gefnogi'r rhai y bydd y gyfres ddiweddaraf o gyfyngiadau yn effeithio arnynt.  Ynghyd â'r holl awdurdodau lleol eraill, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am weinyddu'r Gronfa Busnes Cyfyngiadau newydd.  Bydd y gwaith cynllunio ar gyfer y gwaith hwn yn dechrau ar unwaith.   


Bydd ein timau gwasanaethau rheoleiddio, o dan ymbarél rhanbarthol y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, hefyd yn gweithio'n galed i sicrhau nad yw busnesau anghyfrifol yn gallu torri’r rheolau newydd.   


Mae'r ffaith bod angen cyfyngiadau ychwanegol cyn y Nadolig yn ei gwneud yn glir bod y feirws yn parhau i ledaenu yn ein cymunedau, gan beryglu’r mwyaf agored i niwed. 

 
Drwy gydol y pandemig mae mwyafrif helaeth trigolion y Fro wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i dynnu ynghyd ac atal lledaeniad COVID-19. Er mor flinderus y mae’r ymdrech hir hon, rhaid i bob un ohonom barhau i wneud newidiadau i'r ffordd rydym yn byw ein bywydau, er mwyn byw o fewn y rheolau.   


I gynorthwyo gyda'r ymdrech i gwtogi ar ledaeniad Covid-19, mae'r Cyngor wedi cytuno'n ffurfiol i sicrhau bod Canolfan Hamdden Holm View yn y Barri ar gael fel canolfan frechu. Mae brechiadau'n debygol o fod ar gael, drwy apwyntiad, o fis Ionawr 2021 a bydd yn cael ei weithredu gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.   


Yn y cyfamser, dylai pawb barhau i wneud popeth o fewn eu gallu i atal lledaeniad y feirws.   Yn bwysicaf oll drwy gadw ein pellter oddi wrth eraill, golchi ein dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchuddion wyneb pan fyddwn dan do mewn mannau cyhoeddus. 

 
Bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu’r newyddion diweddaraf ac arweiniad dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf ac os oes gan breswylwyr unrhyw ymholiadau am yr hyn y dylent neu na ddylent ei wneud, neu sut i gadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel, gallant ddod o hyd i atebion ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu wefan Llywodraeth Cymru.   


Diolch i chi gyd unwaith eto am yr ysbryd cymunedol gwych sydd wedi bod yn amlwg ym Mro Morgannwg eleni.