Cost of Living Support Icon

 

Datganiad gan Gyngor Bro Morgannwg

Ysgolion i newid i ddysgu o bell cyn gwyliau’r Nadolig

 

  • Dydd Iau, 10 Mis Rhagfyr 2020

    Bro Morgannwg



Disgwylir i ysgolion Bro Morgannwg fabwysiadu dull dysgu o bell ar gyfer diwrnodau olaf tymor yr hydref. 


Bydd yr ysgolion uwchradd yn dechrau addysgu yn y ffordd hon o ddydd Llun yn dilyn cyfarwyddiadau gan Lywodraeth Cymru a bydd yr ysgolion cynradd a’n hysgol arbennig yn dechrau gwneud hynny o ddydd Iau yr wythnos nesaf.


Cynhelir diwrnodau HMS sydd eisoes wedi’u trefnu gan ysgolion unigol ar ddiwedd y tymor yn ôl y bwriad.