Cost of Living Support Icon

 

Ysgol Gynradd Albert Road yn archwilio hanes Penarth gydag artistiaid lleol

Yn ddiweddar gwnaeth disgyblion o Ysgol Gynradd Albert Road gymryd rhan mewn gweithdy mono-brintiau gydag artistiaid lleol, gan ganolbwyntio ar hanes helaeth y dref a sut mae wedi newid dros y canrifoedd.

 

  • Dydd Iau, 20 Mis Chwefror 2020

    Bro Morgannwg



Y tîm celf 'V ac O' - Pandora Vaughan a Huw Owen a gyflwynodd y gweithdy i Grŵp Eco'r ysgol, sydd wedi bod yn astudio eu hamgylchedd lleol. 

 

Bu'r disgyblion yn trafod yr hyn yr oedd 'treftadaeth’ yn ei olygu iddyn nhw a thrawsnewidiad hanesyddol y dref.  Buont yn ystyried sut mae bywyd bob dydd wedi esblygu ar gyfer trigolion Penarth gan nodi pa agweddau ar yr ardal oedd yn bwysig iddynt.


Yna gwnaethant greu mono-brintiau, wedi'u hysbrydoli gan eu syniadau am le, natur a materion amgylcheddol ehangach, lleoliadau ac adeiladau allweddol, a phethau eraill yr oeddent yn eu gwerthfawrogi ac yn mwynhau eu gwneud.


Ymunodd y Cyng. Kathryn McCaffer - Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant â’r myfyrwyr ar gyfer y gweithdy. 

 

Dwedodd: "Roedd hwn yn gyfle gwych i'r bobl ifanc hyn weithio gydag artistiaid proffesiynol tra hefyd ymgysylltu â diwylliant cyfoethog eu tref. 


"Mae'r gweithdy yn rhan o broses ymgynghori ehangach i ddatblygu gwaith celf ar gyfer y mannau eistedd ar hyd Paget Road, ac felly roedd yn hynod werthfawr cael mewnbwn cenhedlaeth iau Penarth wrth lunio ei dyfodol."


Fel rhan o'r broses ymgynghori, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi comisiynu 'V ac O' i gynnal rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned gyda thrigolion. Gwahoddir trigolion Penarth i fynychu a rhannu eu syniadau i helpu i ddatblygu dehongliadau creadigol newydd ar gyfer safle Heol Paget.


Os hoffech gymryd rhan yn y project, cysylltwch â:

  • 01446 709805
  • tcharding@valeoflgmaorgan.gov.uk