Cost of Living Support Icon

 

Ystafelloedd newid ar eu newydd wedd yng Nghanolfan Hamdden Penarth

Mae gwaith adnewyddu i greu pentref newid cynllun-agored modern yng Nghanolfan Hamdden Penarth bellach wedi'i gwblhau.

 

  • Dydd Mawrth, 18 Mis Chwefror 2020

    Penarth



Mae yna gyfleusterau newid pwll nofio gyda chawodydd a thoiledau newydd, ynghyd â mannau newid chwaraeon sych.


Mae’r pentref newid yn defnyddio ciwbiclau a loceri i greu gofod hygyrch sy’n rhoi mwy o breifatrwydd i bob defnyddiwr a mwy o le i deuluoedd a grwpiau allu newid gyda’i gilydd.

 

Mae'r pentref newydd yn cynnwys:

  • Mynedfa ychwanegol

  • Ciwbiclau newid unigol

  • Ardaloedd newid grŵp

  • Ciwbiclau newid i deuluoedd

  • Cawodydd agored a chiwbiclau

  • Toiledau i ddynion a menywod

  • Toiled, ciwbiclau newid a chawodydd hygyrch.

 

Mae'r cyfleusterau newydd yn lân, lliwgar, golau a chynllun-agored.


Mae yna polisi 'dim sgidiau' yn ardaloedd newid y pwll i helpu i sicrhau hylendid a chynnal a chadw gwell.

 

Changing-village
Showers

 

Accessible-changing-room
Cubicled-showers

 

Mae ystafelloedd newid a phwll nofio Canolfan Hamdden Penarth ar agor yn barod ar gyfer hanner tymor. 

 

Canolfan Hamdden Penarth