Cost of Living Support Icon

 

Ysgol Gynradd Sant Joseff yn helpu i arloesi cwricwlwm newydd ac arloesol i Gymru 

Mae Ysgol Gynradd Sant Joseff wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar greu fframwaith newydd y cwricwlwm, a fydd yn cael ei gyflwyno'n fuan mewn ysgolion cynradd ledled y wlad.

 

  • Dydd Mawrth, 18 Mis Chwefror 2020

    Bro Morgannwg



St Josephs school photos 3

 

Yn rhan o'r fframwaith newydd, mae'n ofynnol i ysgolion gynllunio eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu eu hunain. Yn hytrach na glynu at raglen ddysgu 'oddi ar y silff', bydd ysgolion ac ymarferwyr yn gallu gwneud penderfyniadau sy'n bodloni anghenion dysgwyr penodol orau.

 

Yn ogystal â chyfrannu at y fframwaith, mae’r Ysgol hefyd wedi cyflwyno ei chwricwlwm pwrpasol ei hun, gan ei gwneud yn un o’r 16 Ysgol Arloesi’r Cwricwlwm yng Nghymru. 

 

Mae'r cwricwlwm yn seiliedig ar ganfyddiadau mewn datblygiad plant a gwyddor wybyddol, gyda staff yn gwneud llawer o waith dysgu ar sut mae cyrff a meddyliau plant yn datblygu. 

 

Mae gwersi wedi'u teilwra i wella datblygiad personol, cymdeithasol a chorfforol disgyblion, gan hefyd ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o'r byd, yn y gorffennol a'r presennol.

 

Mae'r Ysgol hefyd wedi elwa o waith sylweddol ar y safle, gan gynnwys adnewyddu pob ystafell ddosbarth ac ad-drefnu mannau dysgu y Cyfnod Sylfaen yn llwyr. 

 

Mae'r staff yn cynnig profiadau dysgu yn rheolaidd y tu allan i'r ystafell ddosbarth, gan fod cae chwarae, coetir, pwll, perllan, dôl blodau gwyllt a pholydwnnel yn rhan o dir yr ysgol. 

 

Mae cyflwyniad cwricwlwm newydd yr ysgol wedi gweld safonau'n gwella bob blwyddyn. Yn ôl Profion Darllen Cenedlaethol y llynedd, cafodd pob plentyn arferol yn yr Ysgol sgôr oedd o fewn y 20% uchaf o sgoriau yn y wlad, gyda'r un safonau uchel yn cael eu cyflawni mewn mathemateg.

 

"Rydyn ni'n hynod o falch o'n llwyddiannau yn Ysgol Sant Joseff. Mae popeth a wnawn yn seiliedig ar yr ymchwil orau sydd ar gael ac fe'i cynlluniwyd i helpu pob plentyn unigol i ffynnu." - Dywedodd y pennaeth, Gareth Rain.

"Mae’r cwricwlwm newydd i Gymru yn annog ysgolion i fabwysiadu agwedd fwy cyfannol tuag at ddysgu. Mae'n eu hannog i ganolbwyntio mwy ar sut a pham mae'r cwricwlwm yn cael ei gyflwyno, yn hytrach na darparu cynnwys penodol a chanlyniadau academaidd.

 

"Mae Ysgol Sant Joseff wedi gwneud gwaith gwych yn helpu i greu’r ymagwedd hon ac, yn ei thro, wedi gweld ei chwricwlwm a'i harferion dysgu ei hun yn blodeuo." - y Cynghorydd Lis Burnett, yr Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg.

Bydd yr ysgol yn cynnal digwyddiad Diwrnod Agored ar ddydd Mercher, 04 Mawrth. Gall rhieni a gofalwyr ymweld a'r ysgol am 10am, 2pm a 4.30pm. Gellir fwcio lle ar EventBrite: