Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn datgelu cynigion ar gyfer parcio ceir

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi cynigion newydd ynghylch parcio ceir yn y Fro ar ôl ystyried barn y trigolion ar y mater yn ofalus.

 

  • Dydd Mercher, 19 Mis Chwefror 2020

    Bro Morgannwg



Wedi ystyried ymatebion y cyhoedd i'r ymgynghoriad a sylwadau a wnaed gan bwyllgorau craffu'r Cyngor, mae'r cynlluniau diweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cynrychioli newid sylweddol o'r hyn a amlinellwyd yn flaenorol.

 

Dan y cynigion, a gaiff eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ddydd Llun, gweithredir y canlynol:

  • Ni chodir tâl am barcio ar y stryd yng nghanol trefi.

  • Bydd o leiaf ddwy awr o barcio am ddim ym mhob maes parcio canol tref presennol.

  • Ni chodir tâl am barcio ar y stryd yn unrhyw un o'n cyrchfannau arfordirol.

  • Ni chodir tâl i barcio mewn Parciau Gwledig cyn 10am.

  • Ni chodir tâl am Drwyddedau Parcio preswylwyr i'r rhai sy'n gymwys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rwy'n gwybod mor sensitif yw'r mater o barcio yn y gymuned ac rydym wedi rhoi sylw manwl i farn y preswylwyr wrth ddrafftio'r cynigion hyn.

 

"Nid oes unrhyw gynlluniau i godi tâl am barcio ar y stryd yng nghanol trefi yn y cynigion hyn, sy'n golygu na ddylai fod unrhyw effaith negyddol ar fusnesau lleol. Dylai creu dau faes parcio i siopwyr olygu y bydd mwy o drosiant ymwelwyr yn ein dwy brif ardal siopa ac rydym wedi sicrhau bod lle parcio am ddim yn y lleoliadau hyn i'r rhai sy'n gweithio yno.

 

"Bydd trigolion lleol yn dal i allu defnyddio ein parciau gwledig yn rhad ac am ddim yn gynnar yn y bore, tra bo safoni taliadau mewn meysydd parcio cyrchfannau arfordirol yn cydnabod eu hapêl gydol y flwyddyn."

 

Yng nghanol trefi, mae cynigion i greu dau faes parcio newydd i siopwyr yn Wyndham Street yn y Barri a ger Neuadd y Dref yn y Bont-faen.

 

Byddai'r rhain yn rhad ac am ddim i'w defnyddio am hyd at ddwy awr, a bydd aros rhwng dwy a phedair awr yn costio £2, gyda phris o £6 am barcio drwy'r dydd.

 

Byddai'r tariffau'n berthnasol chwe diwrnod yr wythnos, rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn, o 8am i 6pm, gyda deiliaid bathodynnau glas yn gallu parcio am ddim.

 

Bydd meysydd parcio Llanilltud Fawr yn destun trefniadau ar wahân, sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd gyda Chyngor y Dref.

 

Bydd y taliadau ar gyfer meysydd parcio cyrchfannau arfordirol, megis Ynys y Barri, Southerndown, ac Aberogwr, yn aros fel y maent ar gyfer misoedd yr haf, gyda'r cyfraddau hynny'n cael eu hymestyn i gynnwys y flwyddyn gyfan.

 

Bydd Trwyddedau Blynyddol ar gael ar gyfer meysydd parcio cyrchfannau arfordirol am y tro cyntaf ar gost o £50 am chwe mis a £100 am 12, gyda phobl anabl yn cael eu heithrio o'r taliadau hynny unwaith eto. Bydd parcio bysus mewn cyrchfannau yn cael ei osod ar £30.00 drwy'r dydd.

 

Mewn meysydd parcio eraill ar hyd yr arfordir, pan ystyrir nad ydynt yn gyrchfannau, er enghraifft: Cold Knap a Bron y Môr yn y Barri, Cwm Colhuw yn Llanilltud Fawr, Cliff Walk a Llwyn Passat ym Mhenarth, Portabello yn fferm Aberogwr a Fferm Gorllewinol yn Southerndown, ni fydd tâl ar waith.

 

O 10am tan 8pm rhwng mis Mawrth a mis Medi a than 5pm rhwng mis Hydref a mis Chwefror, bydd yn costio £1 i barcio am hyd at ddwy awr naill ai ym Mharc Gwledig Mhorthceri neu Barc Gwledig Cosmeston.

 

Bydd rhwng dwy a phedair awr yn costio £2, tra byddai'r tâl am barcio drwy'r dydd yn £4. Y tâl arfaethedig am barcio bysus yw £30.00 drwy'r dydd. Bydd trwyddedau parcio ar gael am chwe mis am £30 neu £50 am y flwyddyn a gellir eu defnyddio yn y naill Barc Gwledig a’r llall. Unwaith eto, byddai pobl anabl sydd â bathodynnau glas yn parcio'n rhad ac am ddim.

 

Pan fydd taliadau parcio yn berthnasol, caiff peiriannau talu ac arddangos modern wedi eu pweru gan ynni’r haul eu gosod, gyda dewisiadau i dalu gyda darnau arian, cerdyn sglodyn a PIN ac yn ddigyswllt. Mae gwell app parcio ffonau symudol hefyd yn cael ei gynnig.

 

Ni chynigir unrhyw newidiadau i'r polisi Trwyddedau Parcio presennol i breswylwyr ar gyfer 2020/21, a byddant yn parhau i fod am ddim i breswylwyr cymwys.

 

Bydd pob un o'r rheoliadau traffig presennol yn parhau mewn grym oni bai bod ystyriaeth ac ymgynghoriad ar wahân yn cael eu cynnal. Bydd gwaith monitro parcio dadleoli posibl o feysydd parcio yng nghanol y trefi neu'r ardaloedd o amgylch y parciau gwledig yn cael ei gynnal wrth gyflwyno’r taliadau.

 

Fodd bynnag, ar hyn o bryd, ni chynigir cyflwyno unrhyw reoliadau traffig ychwanegol, a bydd yr angen am unrhyw gamau o'r fath yn cael ei asesu pan fo’n berthnasol.  

 

Yn y cyfamser, caiff arwyddion priodol eu gosod mewn ardaloedd preswyl yn ardaloedd cyfagos Parc Gwledig Cosmeston ac Ynys y Barri i atal parcio dadleoli.

 

Mae Meysydd Parcio Canolfannau Hamdden yn y Barri, y Bont-faen a Phenarth yn destun trafodaethau ar wahân gyda’r partner Legacy Leisure sy’n eu gweithredu fel rhan o'r trafodaethau contract sy’n mynd rhagddynt.