Cost of Living Support Icon

 

Ysgol Feithrin Cogan yn rhagori ymhob agwedd mewn aroddiad diweddar gan Estyn

Cafodd yr ysgol feithrin ei graddio’n rhagorol ymhob un o’r pum maes arolygu a ni roddodd yr arolygwyr unrhyw argymhellion penodol yn dilyn yr arolygiad. 

 

  • Dydd Llun, 27 Mis Ionawr 2020

    Bro Morgannwg



 Ysgol Feithrin Cogan yw’r ysgol gyntaf yn y sector cynradd i gyflawni hyn. 


Yn eu hadroddiad, dywedodd Estyn bod yr ysgol yn “lleoliad addysgol effeithiol dros ben”, sy’n darparu addysg “blynyddoedd cynnar eithriadol” i’w disgyblion. Nodwyd bod ansawdd y profiad dysgu yn “rhagorol”.


Dywedodd yr arolygwyr fod “gan bob ymarferydd ddealltwriaeth wych o ddatblygiad plant,” ac o ganlyniad, bod “ansawdd y dysgu a’r addysgu ymhob rhan o’r lleoliad yn gyson o safon uchel iawn.”

 

Mae astudiaethau achos o arferion ardderchog yr ysgol feithrin wedi eu hanfon i Estyn ar eu cais.  Y gobaith yw y bydd rhannu arferion fel hyn yn golygu y bydd yr ysgol yn cyfrannu at y Cwricwlwm newydd i Gymru.

 

Bu'r Cyng. Lis Burnett, yr Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg yn canmol yr ysgol:

“Mae canlyniad yr arolygiad yn wych - dylai staff a disgyblion Ysgol Feithrin Cogan fod yn falch iawn. 


“Mae tîm yr ysgol yn rhoi lles y plant wrth galon eu gwaith. Mae ganddyn nhw gyfle nawr i rannu’r ffordd maen nhw’n gwneud hyn, a gallai hyn helpu i lywio dyfodol addysg blynyddoedd cynnar yng Nghymru.”

“Mae pawb yn Ysgol Feithrin Cogan wrth eu bodd gyda’r adroddiad arolygu ardderchog.  Mae’n adlewyrchu ethos yr ysgol ac yn cydnabod gwaith caled holl staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr yr ysgol.” - Pennaeth, Pauline Rowland. 

Cogan Nursery School celebrates