Cost of Living Support Icon

 

Gwaith gwella yn Ardal Chwarae’r Grange yng Ngwenfô

Bydd ardal chwarae’r Grange yn cael ei thrawsnewid yn dilyn buddsoddiad o £90,000 gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mawrth, 28 Mis Ionawr 2020

    Bro Morgannwg



Bydd cyfres o offer newydd, ar thema natur a choetir, yn disodli’r hen gyfleusterau sydd wedi dirywio a byddant yn addas ar gyfer ystod oedran eang. 

 

Mae nodweddion yn cynnwys Bowl Troelli, Uned Aml-chwarae i Blant Bach gyda Sleid Ddur, Byrddau Picnic a Siglenni i Blant Iau. 

 

Mae cyllid ar gyfer y gwaith wedi dod o gyfraniadau Adran 106, a sicrhawyd gan y Cyngor yn sgil datblygiadau adeiladu gerllaw. Cafodd gwaith ar yr ardal chwarae ei ddechrau’n ddiweddar a bydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Chwefror. 

 

Mae ailddatblygiad o’r fath yn rhan o raglen waith eang i wella ardaloedd chwarae ledled y Sir. Mae cyfleusterau yng Nghaeau Chwarae Brenin Siôr V yn Llandochau a’r Murch yn Ninas Powys ymysg y rhai a fydd yn cael eu huwchraddio dros yr ychydig fisoedd nesaf. 

 

“Bydd y gwaith hwn yn y Grange yn trawsnewid ardal chwarae hen ffasiwn yn ardal fodern yn llawn o’r offer diweddaraf sy’n addas i blant o oedrannau amrywiol. 

 

“Mae hyn yn rhan o raglen waith helaeth sydd wedi gweld ardaloedd chwarae ledled y Fro yn cael eu huwchraddio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae’r Grange yn un o nifer o leoliadau lle mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd." - y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant. 

 

Grange play area upgrade map