Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cymryd camau yn erbyn yr arfer o dipio anghyfreithlon

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cymryd camau gorfodi cyn bo hir i fynd â’r afael â’r broblem o dipio anghyfreithlon. 

 

  • Dydd Llun, 27 Mis Ionawr 2020

    Bro Morgannwg



Peter King Flyposting

Mae’n drosedd gosod llun, llythyr neu arwydd ar unrhyw arwyneb priffordd neu osod eitem o’r fath ar goeden, postyn lamp neu unrhyw beth ar y briffordd heb gael caniatâd. 


Mae arfer o’r fath yn cael ei ystyried fel sbwriela a gall effeithio’n negyddol ar ardaloedd penodol o’r Sir, sef pam bod y Cyngor yn bwriadu cymryd camau yn ei erbyn. 


Dan Adran 132 o’r Ddeddf Priffyrdd (A43 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003), mae gan y Cyngor yr awdurdod i gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 fesul poster a byddwn yn gweithredu’r pŵer hwn ledled y Fro cyn bo hir. 


Ym mis Rhagfyr, nododd ein Swyddogion Gorfodi Amgylcheddol 34 esiampl o dipio anghyfreithlon, gyda phob achos mewn perygl o gael y gosb hon. 

“Mae tipio anghyfreithlon yn arfer hyll a digroeso all gael effaith negyddol ar ymddangosiad ardal. 


“Dylai’r rheiny sy’n gyfrifol am dipio anghyfreithlon fod yn ymwybodol y byddwn, cyn bo hir, yn gweithredu ein pwerau i fynd i’r afael â’r mater hwn. 


“Rydym yn bwriadu cymryd camau sylweddol yn erbyn y rheiny sy’n gyfrifol a gallai unrhyw un a geir yn cyflawni’r drosedd hon wynebu dirwy o £100 fesul poster.” - y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.