Cost of Living Support Icon

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn chwe lleoliad

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi penderfynu gweithredu’n llym yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymgasgliadau mawr sy’n gysylltiedig ag yfed gormod o alcohol gan gynnig cyflwyno Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus mewn nifer o leoliadau newydd ar draws y Sir.

 

  • Dydd Mercher, 29 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg



Mewn cyfarfod heddiw, cytunodd Cabinet y Cyngor i symud trefniadau ymgynghori â’r cyhoedd yn eu blaen â’r nod o osod y cyfyngiadau mewn chwe safle ychwanegol, gan ei gwneud yn anghyfreithlon i yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yno. 

 

Dyma nhw:

 

  • Parc Gwledig Cosmeston
  • Parc Gwledig Porthceri
  • Pier Penarth a’r Esplanâd
  • Traeth Aberogwr a’r tir cyhoeddus o’i amgylch
  • Cwm Col Huw yn Llanilltud Fawr
  • Trwyn y Rhws

Mae’r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sydd eisoes ar waith mewn nifer o fannau eraill yn y Fro yn rhoi i’r Heddlu a Swyddogion Gorfodi Sifil y grym i atafaelu alcohol a rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig i unrhyw un nad yw’n cydymffurfio â’r gorchmynion.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Dros yr ychydig wythnos diwethaf, bu adroddiadau am ymgasgliadau mawr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag yfed alcohol mewn nifer o leoliadau blaenllaw o gwmpas y Fro.

 

“Mae’r ymddygiad hwn yn gwbl annerbyniol ac mae’n atal trigolion ac ymwelwyr eraill rhag mwynhau’r atyniadau hyn yn llwyr.

 

“Ni chaniateir digwyddiadau o’r fath a dyma pam fy mod i a fy nghydweithwyr yn y Cabinet wedi cytuno i symud Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn eu blaen i osod cyfyngiadau newydd ar yfed mewn nifer o leoliadau. Mae’r rhain yn debyg i’r rhai sydd eisoes ar waith mewn rhannau eraill o’r Sir lle mae alcohol wedi’i atafaelu ac mae hysbysiadau cosb benodedig wedi’u rhoi.  Bydd y penderfyniad hwn yn ein galluogi i wneud yr un peth mewn ardaloedd eraill y mae’r ymddygiad gwrthgymdeithasol annerbyniol yn effeithio arnynt.

 

“Gobeithio bod hyn yn anfon neges gref y byddwn yn cymryd camau i fynd i’r afael â digwyddiadau o anhrefn ac i daclo’r rhai hynny sy’n difetha mannau agored i bawb arall. Os nad yw pobl yn barod i ymddwyn yn gyfrifol a chydymffurfio â deddfwriaeth, wedyn mae’r neges yn syml. Cadwch draw.”