Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn mynd i'r afael â pharcio sy’n achosi problemau

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno ar fesurau newydd i fynd i'r afael â pharcio sy’n achosi problemau mewn chwe man poblogaidd.

 

  • Dydd Mawrth, 28 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg



Yn ystod yr wythnosau diwethaf, cafwyd problemau parhaus gyda phobl yn parcio mewn ardaloedd penodol, yn aml wrth ymweld â mannau yn yr awyr agored, gan arwain at strydoedd gorlawn a cherbydau'n achosi anghyfleustra i drigolion lleol.


Cafwyd hyd yn oed adroddiadau am y tagfeydd yn llesteirio taith y cerbydau argyfwng.


Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae'r Cyngor yn cynnig cyflwyno cynlluniau parcio newydd i breswylwyr ar rannau o Ynys y Barri, Aberogwr, y Knap, Cosmeston, y Bont-faen a Llandochau.


Cynhelir trafodaethau yn fuan gyda thrigolion yr ardaloedd hyn yr effeithir arnynt ar opsiynau ar gyfer parcio preswyl, a allai weld trwyddedau parcio am ddim i drigolion y strydoedd yr effeithir arnynt gydag unrhyw un sy’n parcio eu car yn yr ardaloedd hyn heb y drwydded ofynnol yn wynebu camau gorfodi posibl.


Bydd swyddogion y Cyngor ar ddyletswydd yn yr ardaloedd hyn ac yn rhoi hysbysiadau cosb benodedig i unrhyw un nad ydynt yn cadw at y rheoliadau newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rwy'n ymwybodol o nifer o strydoedd o gwmpas y Fro sy'n destun cryn dipyn o barcio blêr gan ymwelwyr ac wedi bod felly ers nifer o flynyddoedd. Gall hyn achosi problemau i breswylwyr sy'n ceisio mynd i mewn ac allan o’u heiddo yn ogystal ag effeithio ar lif traffig a diogelwch ar y briffordd.


"Mae fy nghydweithwyr yn y Cabinet a minnau wedi ymateb i'r pryderon a godwyd drwy gytuno ar fesurau newydd sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r problemau parcio preswyl mewn nifer o leoliadau allweddol yn y sir.


"Os yw'r trigolion yn yr ardaloedd hyn yn cytuno, byddem yn ceisio cyflwyno cynlluniau parcio i breswylwyr i'r ardaloedd hyn, cyn gynted ag y bo'n gyfreithiol bosibl, gan ei gwneud yn drosedd parcio yno heb drwydded a chyfarwyddo ein swyddogion gorfodi i gymryd camau yn erbyn unrhyw un nad yw'n cadw at y rheoliadau hyn."


Os cytunir ar y camau i weithredu'r cyfyngiadau yn y chwe maes blaenoriaeth cychwynnol ac os gwelir eu bod yn llwyddiant, gellid ymestyn y mesurau i rannau eraill o'r Fro.