Cost of Living Support Icon

 

Wythnos Gofalwyr 2020 

I nodi Wythnos Gofalwyr 2020, mae Gwasanaethau Gofalwyr ym Mro Morgannwg wedi casglu adnoddau i gefnogi gofalwyr. Mae rhai o'r rhain wedi cael eu datblygu'n benodol mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws.

 

  • Dydd Mawrth, 02 Mis Mehefin 2020

    Bro Morgannwg



 Carers week banner

carers week logo

"Eleni, mae pobl ar draws y wlad yn parhau i wynebu heriau newydd o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Mae llawer o bobl yn ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau gofalu am eu perthnasau a'u ffrindiau sy'n anabl, yn sâl neu'n hŷn y mae angen cymorth arnynt.

 

"Mae angen iddyn nhw gael eu cydnabod am yr anawsterau maen nhw'n eu profi, cael eu parchu am bopeth maen nhw'n ei wneud, a chael gwybodaeth, cefnogaeth a dealltwriaeth.

 

"Felly, yn ystod Wythnos Gofalwyr, rydyn ni'n dod at ein gilydd i helpu i Dynnu Sylw at Ofalu." - Datganiad o Wythnos Gofalwyr 2020.

Mae 6.5 miliwn o ofalwyr di-dal yn y DU. Maen nhw'n gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind sydd ag anabledd, salwch meddyliol neu gorfforol neu sydd ag angen help ychwanegol wrth iddyn nhw dyfu'n hŷn. 

 

Er bod llawer o’r farn bod gofalu yn un o'r pethau pwysicaf y maent yn eu gwneud, mae gofalwyr yn wynebu heriau anhygoel. Mae gofalu'n cael effaith ar bob agwedd ar fywyd, o berthnasoedd ac iechyd i gyllid a gwaith.

 

Gall gofalu heb yr wybodaeth a'r cymorth cywir fod yn anodd. Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod cyfraniad gofalwyr at eu teuluoedd a’u cymunedau lleol,  eu gweithleoedd a’r gymdeithas, a'u bod yn cael y cymorth mae ei angen arnynt.

 

Llythyr agored i ofalwyr

Cymorth, digwyddiadau a gweithgareddau ar-lein

 

Er bod gwasanaethau wyneb yn wyneb wedi’u hatal dros dro neu'n gweithredu ar sail argyfwng yn unig, mae llawer o sefydliadau yn dal i weithredu ar-lein neu dros y ffôn.

 

Porth Gofalwyr Caerdydd a'r Fro 

Mae Porth Gofalwyr Caerdydd a'r Fro wedi'i sefydlu i roi gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Nod y gwasanaeth yw gwella ansawdd bywyd gofalwyr a’r rhai sy’n derbyn gofal trwy eu helpu i gynnal eu hannibyniaeth. 

 

Mae'r tîm yn gweithio gyda gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ledled y rhanbarth i helpu gofalwyr gyda phethau megis:

  • Hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr ar draws y rhanbarth

  • Cefnogi pobl i fanteisio ar wasanaethau lleol

  • Nodi gwasanaethau newydd sy’n angenrheidiol i helpu gofalwyr

  • Codi ymwybyddiaeth o bwy yw'r gofalwyr a'r heriau y maent yn eu hwynebu

  • Darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i ofalwyr

  • 02921 921024
  • gateway@ctsew.org.uk

 

Care for a Cuppa, Gofalwyr Cymru

Mae Gofalwyr Cymru yn cynnal cyfres o sgyrsiau a sesiynau gwybodaeth Care for a Cuppa ar-lein bob dydd Mawrth o 14.30 tan 16.30 (oni nodir yn wahanol).  

 

Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal yn Saesneg ac yn cynnwys siaradwr gwahanol bob wythnos o 15:00 tan 16:00. Mae cyfle hefyd i chi siarad â gofalwyr eraill cyn ac ar ôl pob sgwrs.

 

Gwefan Care for a Cuppa

 

 

Gweithgareddau Wythnos Gofalwyr 2020, Gofalwyr Cymru

Bydd Gofalwyr Cymru yn cynnal nifer o weithgareddau a sgyrsiau trwy gydol yr wythnos. Bydd saib 30 munud cyn ac ar ôl pob sesiwn i sgwrsio â gofalwyr eraill a’r swyddogion Dawn ac Amber.

 

Cynhelir y sesiwn ar Zoom. Cliciwch ar y dolenni unigol sy’n ymwneud â phob gweithgaredd neu siaradwch i ymuno. 

 

Gweithgareddau Wythnos Gofalwyr

 

 

Dementia Talking Point, Cymdeithas Alzheimer

Mae Dementia Talking Point yn gymuned gymorth ar-lein i'r rhai y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae'n rhad ac am ddim, ar agor ddydd a nos a gellir ei gyrchu ar-lein.

 

Dementia Talking Point

 


Cyfeiriadur Gwasanaethau Trydydd Sector GGM

Mae GGM yn cefnogi sefydliadau'r trydydd sector ac yn derbyn ymholiadau gan y cyhoedd yn ystod argyfwng COVID-19.  

 

Mae'r cyfeiriadur yn rhoi gwybodaeth am wasanaethau llinell flaen y trydydd sector a llinellau cymorth i gefnogi pobl yn ystod argyfwng y coronafeirws. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau eraill a hybiau cymunedol.


Gall y gwasanaethau hyn newid ac maent yn dibynnu ar staff a gwirfoddolwyr na fyddant, o bosibl, yn gallu ymateb i bob cais am gymorth.

 

Cyfeiriadur y Trydydd Sector

 

Canllawiau GGM am COVID-19 ar gyfer grwpiau cymorth cymunedol

Mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg wedi llunio'r canllawiau canlynol ar gyfer grwpiau cymorth newydd a rhai sy’n datblygu sy'n gweithio yn y gymuned.

 

Canllawiau ar gyfer Grwpiau Cymorth

 

Swyddog Cyswllt Cymunedol GGM

Mae rôl y Swyddog Cyswllt Cymunedol yn wasanaeth siop un stop. Mae’n gweithio'n agos gyda thimau iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi teuluoedd, oedolion ifanc a'r rhai rhwng 18 a 60 oed sydd â chyflyrau meddygol hirdymor. Y nod yw helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth trwy eu helpu i fanteisio ar wasanaethau cymunedol.

 

Mae’n cynnig cymorth gyda chyllid a budd-daliadau, unigrwydd, arwahanrwydd, gweithgareddau cymdeithasol, rhianta, mynediad at eiriolaeth, trafnidiaeth, materion sy'n benodol i gyflwr, tai, a chymorth yn y cartref pan gaiff pobl eu rhyddhau o'r ysbyty.

 

  • carole@gvs.wales 


Dysgu ar gyfer Byw, Carers UK

Mae Carers UK wedi lansio ei raglen e-ddysgu ddwyieithog ddiweddaraf ar gyfer gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Mae Dysgu ar gyfer Byw yn helpu gofalwyr i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r sgiliau a'r wybodaeth unigryw y maent yn eu cynnig fel rhan o'u rôl gofalu a sut y gallant drosglwyddo'r sgiliau hyn i'r gweithle.

 

 

Nod y rhaglen yw hybu hyder ymysg gofalwyr di-dâl sydd yn aml yn peidio â sylweddoli gwerth y sgiliau hyn wrth chwilio am swyddi neu’n meddwl am newid rolau. 

 

 

Dysgu ar gyfer Byw

 

Cymuned Ar-lein Macmillan 

Mae'r gymuned ar-lein yn cynnig trafodaethau grŵp yn ôl mathau gwahanol o ganser a materion amrywiol. Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth 'Holi Arbenigwr'. Mae'r gymuned ar agor 24/7. 

 

Cymuned Macmillan

 

Marie Curie yn Cefnogi Gofalwyr 

 

Os oes gan rywun sy'n agos atoch chi salwch terfynol, gall Marie Curie eich cefnogi mewn sawl ffordd. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gefnogi rhywun sydd â salwch terfynol ar eu gwefan.
Os hoffech chi siarad â rhywun i gael cyngor neu chefnogaeth emosiynol, ffoniwch ein llinell gymorth yn rhad ac am ddim ar 0800 090 2309. 


Ar y wefan Taking Care gallwch edrych ar fideos o ofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn rhannu eu teimladau, anogaeth a ffyrdd o ymdopi.

 

 

 

 

 

The Sofa Singers

Wedi’i sefydlu gan yr arweinydd lleisiol, James Sills, mewn ymateb i'r hunan-ynysu byd-eang, mae The Sofa Singers yn dod â channoedd o bobl at ei gilydd mewn amser go iawn am ymarfer côr 45 munud o hyd. Maent yn dysgu cân glasurol gyda harmonïau/cyfeiliant dewisol.

 

Mae sesiynau The Sofa Singers yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal ar-lein bob wythnos.

 

The Sofa Singers 

 

Teithiau Rhithwir