Cost of Living Support Icon

 

Datganiad gan Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg

Fel Awdurdod, ers tro rydym wedi datgan ein gwrthwynebiad llwyr a diamwys i hiliaeth a a gwahaniaethu o unrhyw fath

 

  • Dydd Mercher, 10 Mis Mehefin 2020

    Bro Morgannwg



Mae ein gwaith i fynd i’r afael â rhagfarn mor wrthun yn dyddio yn ôl flynyddoedd lawer ac mae’n cynnwys perthynas hirsefydlog gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Heddiw, rydym yn parhau’n ymrwymedig at gydraddoldeb i bawb beth bynnag yw eu hil, anabledd, eu hoedran, eu crefydd neu eu cyfeiriadedd rhywiol.

 

Cllr MOORE

 Fel miliynau o bobl ledled y byd, cefais sioc ac effeithiwyd arnaf yn ddwys iawn gan luniau o’r driniaeth gafodd George Floyd cyn ei farwolaeth drasig. Mae Bywydau Du yn Bwysig, ac i gefnogi’r ymgyrch honno bydd cysgodfa eiconig Ynys y Barri’n cael ei goleuo’n borffor dros y penwythnos. Byddwn hefyd yn buddsoddi i sicrhau y gellir taflunio effeithiau golau tebyg ar adeiladau corfforaethol y Cyngor yn y dyfodol, na ellir eu cyflawni ar hyn o bryd. Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi’r Cyngor i wneud datganiadau clir o gefnogaeth i’n cymuned, ac i wahanol achosion ac ymgyrchoedd.

 

Rwy’n deall yn llawn yr awydd cryf sydd gan bobl i brotestio ar y mater emosiynol a phwerus hwn. Mae hyn yn hawl y dylem fod yn falch ohoni - mae siarad yn rhydd yn bwysig.  Fodd bynnag, wrth i ni barhau yng nghanol pandemig byd-eang, byddwn yn annog pawb i aros yn ddiogel.  Yn amlwg mae hyn yn cynnwys dilyn ymbellhau cymdeithasol, cynnal hylendid dwylo a pheidio â theithio mwy na phum milltir i gwrdd ag aelodau aelwydydd eraill.