Cost of Living Support Icon

 

Datganiad gan Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg

Heddiw, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau gwaith adolygu rhagweithiol o’r holl gerfluniau a choffadwriaethau, gan gynnwys enwau strydoedd, adeiladau cyhoeddus a phlaciau, ym Mro Morgannwg

  • Dydd Gwener, 12 Mis Mehefin 2020

    Bro Morgannwg



Mae’n hanfodol i’r rheiny sydd ar dir cyhoeddus gynrychioli gwerthoedd pobl leol a gwerthoedd Cyngor modern a chynhwysol.

 

Byddwn yn gweithio gyda’n cymunedau a sefydliadau priodol i archwilio i gysylltiadau â chaethwasiaeth ac unrhyw ymddygiad neu arfer nad yw’n gweddu â’n hethos. Bydd y Cyngor yn ystyried cynnwys yr adolygiad maes o law.


Dyma enghraifft arall o benderfyniad y Cyngor i fynd i’r afael â rhagfarn o bob math. Fel sefydliad, rydym yn aros yn gwbl ymrwymedig i’r egwyddor cydraddoldeb waeth beth fo hil, oedran, rhyw, crefydd, Anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol.