Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn helpu i oleuo'r ffordd at siopau'r Barri

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi helpu i sefydlu gosodiad goleuadau newydd yn y twnnel rheilffordd rhwng Broad Street a Hood Road yn y Barri.

 

  • Dydd Gwener, 26 Mis Mehefin 2020

    Bro Morgannwg



Comisiynwyd y cynllun fel rhan o fenter Creu Tonnau'r Barri, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sydd â'r nod o ddathlu ymdeimlad o le yn y Barri.


Nod y cynllun yw uno ardal y glannau sydd newydd ei datblygu yn y Barri gydag ardaloedd manwerthu'r Stryd Fawr a Broad Street.


Er mai taith gerdded fer sydd rhwng y ddwy ardal, roedd y twnnel tywyll o dan y rheilffordd yn cael ei weld fel rhwystr gan atal cerddwyr rhag symud rhwng y ddwy ardal.


Welsh flag special lightingPenodwyd Architainment Lighting Ltd, mewn cydweithrediad â'r artist Jessica Lloyd Jones, drwy broses gystadleuaeth agored i lunio cynllun goleuo newydd a fyddai'n trawsnewid y twnnel yn fan golau, croesawgar a difyr.


Mae gan y cynllun goleuo nifer o raglenni a gosodiadau ac mae modd eu teilwra ar gyfer diwrnodau arbennig, megis lliwiau'r enfys ar gyfer dathliad Pride a golau coch, gwyn a gwyrdd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. 

 

Mae’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett, wrth ei bodd â’r gosodiad. Dwedodd:

"Mae hwn yn ychwanegiad gwych i ardal sydd yn prysur ddod yn un o'r rhai mwyaf bywiog ym Mro Morgannwg. 


"Gyda datblygiad Goodshed ar un ochr a Stryd Fawr a Broad Street ar y llaw arall, rwy'n siŵr y bydd preswylwyr lleol yn mwynhau cerdded drwy'r twnnel i fynd at y cyfleusterau rhagorol sydd ganddynt ar garreg eu drws."

Dywedodd Fay Blakeley, perchennog Homemade Wales ar y Stryd Fawr a Chadeirydd Bwrdd Lle y Barri:

"Gyda chadw pellter cymdeithasol yn cyfyngu ar barcio yn yr ardaloedd siopa, gall fod yn gymhelliant ychwanegol i bobl fynd am dro yn yr ardal - rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei annog gymaint ag y bo modd."