Cost of Living Support Icon

 

Maer Bro Morgannwg yn coffau D-Day

Bydd Maer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Christine Cave, yn cymryd rhan yn Ras Goffa D-Day i nodi bod 76 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers y glaniadau yn Normandi

 

  • Dydd Gwener, 05 Mis Mehefin 2020

    Bro Morgannwg



AYn ddigwyddiad allweddol ym muddugoliaeth y Cynghreiriaid yn yr Ail Ryfel Byd, ar D-Day gwelwyd miloedd o filwyr yn ymosod ac yn rhyddhau Ffrainc a oedd dan oresgyniad yr Almaen, gyda llawer yn colli eu bywydau.


I goffáu'r pen-blwydd, mae Run 4 Wales wedi trefnu ras rithwir, gyda llwybrau 10K, hanner a marathon yn seiliedig ar ymgyrch 1944.


A hithau’n rhedwr brwd, bydd y Cyng. Cave yn cymryd rhan yn y digwyddiad, sy’n rhan o Military Remote Running, cynllun sy'n rhoi cyfle i filwyr ledled y byd gymryd rhan mewn digwyddiadau rhithwir tra ar ddyletswydd neu gartref.


Nod y ras yw rhoi rhywbeth heriol ac ysgogol i redwyr ei wneud yn ystod y cyfnod cloi ac mae wedi cael ei drefnu mewn partneriaeth ag elusen ABF Elusen y Milwyr, sy'n cynnig cefnogaeth i filwyr, cyn-filwyr a'u teuluoedd agos.

 

Cllr CAVE Christine 2017

Dywedodd y Cyng. Cave: "Mae'n bwysig iawn ein bod yn coffáu D-Day, lle gwelwyd cyfres o ddigwyddiadau tyngedfennol a helpodd i sicrhau buddugoliaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae D-Day yn ddigwyddiad yn ein hanes na fyddwn byth yn ei anghofio yn rhannol am fod rhai miloedd o bobl wedi colli eu bywydau. 


"Er na allwn ni ddod ynghyd mewn grwpiau mawr oherwydd argyfwng y coronafeirws, rwy'n gwybod y byddwn ni i gyd yn awyddus i nodi'r achlysur arwyddocaol hwn. Un ffordd y byddaf yn gwneud hyn yw trwy gymryd rhan yn Ras Goffa D-Day mewn cydweithrediad â Run 4 Wales ac ABF Elusen y Milwyr.


"Nid wyf yn disgwyl gorffen y ras 10K yn unman yn agos at amseroedd ein dynion a merched sy’n gwasanaethu a fydd yn cymryd rhan o bell o ble bynnag y maent ledled y byd. Ond nid ein hamseroedd rhedeg sy’n bwysig yn y pen draw. Yn hytrach, mae’n ymwneud â chymryd rhan a dangos ein cefnogaeth. Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn os gallant." 


Mae gweithredoedd coffa yn digwydd ledled y Wlad y penwythnos hwn a bydd baner y Lluoedd Arfog yn hedfan y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig yn y Barri.