Cost of Living Support Icon

 

Ysgolion Bro Morgannwg yn elwa ar ap cwmni adeiladu

Caiff ysgolion Bro Morgannwg gyngor ar sut i weithredu'n ddiogel pan fyddant yn ailagor yn ddiweddarach y mis hwn drwy ap a ddyluniwyd gan ISG Construction

 

  • Dydd Gwener, 12 Mis Mehefin 2020

    Bro Morgannwg



Mae'r cwmni yn gweithio ar estyniad gwerth £21,5 miliwn yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn y Barri a hefyd yn datblygu tair ysgol gynradd newydd 210 lle yng ngorllewin y Fro.


Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau diogelwch Llywodraeth Cymru yn ystod argyfwng y Coronafeirws, creon nhw ap a oedd yn rhoi cyngor i staff sy'n gweithio ar safleoedd adeiladu.

 

app1

Mae hwnnw wedi'i addasu erbyn hyn i’w ddefnyddio mewn ysgolion, a fydd yn ailagor ar draws Cymru i rai disgyblion o ddydd Llun, 29 Mehefin.


Mae'n cynnig cyngor cyffredinol ar sut i gyflwyno ymbellhau cymdeithasol yn ogystal ag enghreifftiau o arfer da mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, fel teithio i'r ysgol, amser yn yr ystafell ddosbarth a thoiledau.


Mae’r ap yn bennaf ar gyfer staff ysgol, ac mae ar gael drwy sganio cod QR, a gaiff ei arddangos ar waliau ystafelloedd dosbarth; gellir ei agor hefyd drwy glicio ar ddolen.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â chontractwyr ledled y Sir, sy'n helpu i wella seilwaith ysgolion fel rhan o'n rhaglen waith yn gysylltiedig ag Ysgolion yr 21ain Ganrif.


"Mae hon yn enghraifft arall o'r cydweithio hwnnw, gydag ISG yn garedig yn addasu offeryn sydd wedi eu galluogi nhw i weithio'n ddiogel ar safleoedd adeiladu at ddefnydd mewn ysgolion.


"Lles plant yw ein prif flaenoriaeth pan aiff yr ysgolion yn ôl a dim ond un o’r mesurau yw’r ap hwn, a fydd yn cael eu cyflwyno i sicrhau eu diogelu."

Dywedodd Zoe Price, Prif Swyddog Gweithredol busnes adeiladu'r ISG yn y DU: "Gan adeiladu ar gyflwyniad llwyddiannus ein hadnodd digidol i rannu arfer gorau ac arloesedd ar gyfer gweithio'n ddiogel o fewn canllawiau Covid-19, rydym wedi addasu'r dull hwn sy'n arwain y diwydiant ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, drwy ein partneriaeth strategol â Chyngor Bro Morgannwg.

 

VOG app 2

"Cyn i ysgolion ailagor ddiwedd y mis, mae'r adnodd hwn yn ganllaw hwylus a chlir i dimau arwain ysgolion ar y camau ymarferol y dylent eu cymryd i sicrhau bod lleoliadau yn cydymffurfio â mesurau diogelwch yng nghyd-destun Covid-19. 


"Gan fod adeiladu wedi bod yn un o'r sectorau craidd y mae'r Llywodraeth wedi cefnogi eu cynnal yn weithredol drwy gydol y pandemig, bu i ni addasu'n gyflym i ymbellhau cymdeithasol a gwell cyfundrefnau hylendid drwy gydweithredu ac arloesi. Mae rhannu'r wybodaeth a'r dull hwn gydag ysgolion, wrth iddynt fynd i'r afael â'r heriau sylweddol o ailagor yn unol â’r ‘normal newydd’, yn gwbl gyson â dull agored o bartneriaeth ein diwydiant, ac rwyf wrth fy modd y bydd ysgolion ym Mro Morgannwg a thu hwnt yn elwa."