Cost of Living Support Icon

 

Gorsaf Ynys y Barri yn cael ei marchnata ar gyfer ailddatblygu cyffrous

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno i farchnata adeilad Gorsaf Ynys y Barri ar gyfer cymysgedd posibl o fwytai, siopau, unedau busnes ac eiddo twristiaeth breswyl.

 

  • Dydd Iau, 12 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Cyn bo hir bydd yr adeilad yn cael ei farchnata gyda'r nod o ganmol cyrchfan glan môr y Barri, gan manteisio ar lwyddiant yr Ynys sydd wedi'i hadfywio ac adfywio Glannau'r Barri cyfagos a'i Ardal Arloesi.
 
Mae'r hen adeilad storio rheilffyrdd ar Hood Road yn y Barri, sef Goodsheds, wedi cael ei droi'n bentref o gynwysyddion llongau sy’n cynnwys swyddfeydd, unedau manwerthu, bwytai a siop goffi wrth ochr cyfadeilad o fflatiau.
 
Cyn hynny, daeth y Tŷ Pwmpio, Adeilad arall o'r 19eg Ganrif gydag arwyddocâd hanesyddol mawr, yn gartref i'r Hang Fire Southern Kitchen, bar espresso'r Academy a busnesau eraill.
 
Mae datblygiadau cyffrous pellach ar y gweill yn yr Ardal Arloesi wrth y glannau, sy’n gynnwys cynigion ar gyfer campws coleg newydd, ysgol gynradd a The Engine Room, a fydd yn cynnig mwy o swyddfeydd o safon.
 
O dan y cynigion diweddaraf hyn, byddai'r tenantiaid presennol Cambrian Transport, sy'n gweithredu Rheilffordd Dwristiaeth y Barri, yn aros yn yr orsaf.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Mae hwn yn gyfle hynod gyffrous i ailddatblygu un o adeiladau mwyaf eiconig y Barri.

"Yn dilyn llwyddiant prosiectau adfywio tebyg mewn lleoliadau cyfagos, gobeithiwn y gall hwn fod yn brosiect arall sy'n troi safle heb ei ddefnyddio'n rhywbeth bywiog a modern a fydd o fudd sylweddol i'r gymuned leol.

"Alla i ddim aros i astudio'r cynigion rydyn ni'n eu derbyn a darganfod beth allai'r dyfodol ei ddal ar gyfer Gorsaf Ynys y Barri."