Cost of Living Support Icon

 

Gall Cysylltu Cymru helpu i dorri costau a chyrraedd targedau gweithio gartref

Gallai’r llwyfan canolfan gyfathrebu a chyswllt a rennir fod y ffordd gyflymaf a mwyaf cost-effeithlon i Awdurdodau Lleol gyflawni nodau gweithio gartref o 30%.

 

  • Dydd Iau, 12 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Cafodd Cysylltu Cymru ei lansio'n swyddogol heddiw mewn digwyddiad rhithwir gan Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.


Mae'r llwyfan wedi'i gynllunio i ganiatáu i asiantau canolfannau cyswllt, gweithwyr a rheolwyr y sector cyhoeddus gael mynediad i'r un dechnoleg gartref ag yn y swyddfa. Mae Cysylltu Cymru yn cael ei bweru gan bartner yn y sector preifat, technoleg Cwmwl Cymunedol FourNet ac mae'n defnyddio Rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.


Wedi’i drefnu i lansio'n gynharach eleni, gohiriwyd y digwyddiad oherwydd Covid-19. Ers hynny mae mwy o gyrff yn y sector cyhoeddus wedi ymuno â'r llwyfan technoleg a rennir, yn ei dro yn helpu i lansio gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â Covid megis CAV24/7 a gwasanaeth bws Fflecsi Trafnidiaeth Cymru.


Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am roi mwy o hyblygrwydd i weithwyr weithio o bell yn y dyfodol, gyda'r nod o gyrraedd targed gweithio gartref o 30%. Mae'n awgrymu y gallai hyn sbarduno adfywio a gweithgarwch economaidd mewn cymunedau ledled Cymru ar ôl Covid, yn ogystal â darparu manteision economaidd a lles eraill i gyflogwyr a gweithwyr.

Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg: "Yng Nghyngor y Fro, rydym bob amser yn ceisio gwella'r ffyrdd rydym yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau hanfodol. Rydym yn falch o fod yn defnyddio'r llwyfan hwn, a fydd yn ein helpu i gyflawni targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio o bell yn y dyfodol.”


Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol: "Mae'r pandemig wedi newid sut mae nifer ohonom yn gweithio. Bydd Cysylltu Cymru yn caniatáu i fwy o weithwyr ar draws awdurdodau lleol weithio gartref tra'n cynnal gwasanaethau allweddol i'w cymunedau.


“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus yn cydweithio. Mae wedi caniatáu mwy o gydweithredu ar draws llywodraethau lleol, mwy o arloesi a gwell gwasanaethau i gwsmeriaid yn Gymraeg ac yn Saesneg.”

Mae cyflogwyr hefyd yn edrych ar ffyrdd eraill o hwyluso gweithio gartref ar raddfa fwy, megis darparu cysylltiadau band eang sefydlog ac effeithlon.