Cost of Living Support Icon

 

Arweinydd y cyngor yn ymateb i gyhoeddi mesurau cendlaethol newydd 

Mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi agweddau ar y mesurau cenedlaethol newydd heddiw fydd yn dod i rym yng Nghymru o 09 Tachwedd, pan ddaw'r cyfnod atal i ben.

 

  • Dydd Llun, 02 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



O'r wythnos nesaf ymlaen, bydd y canlynol yn berthnasol er mwyn cadw Cymru'n ddiogel:

  • Dylech barhau i weithio gartref lle bo’n bosibl gwneud hynnyBydd lletygarwch a siopau nad ydynt yn hanfodol yn ailagor
  • Bydd pob ysgol yn ailagor ar gyfer disgyblion o bob oed
  • Bydd modd i 2 aelwyd ymuno â'i gilydd i ffurfio aelwyd estynedig neu 'swigen'.
  • Caniateir teithio yng Nghymru, ond dim ond pan fo'r daith yn hanfodol y dylai pobl deithio.
  • Dim ond gydag esgus rhesymol y caniateir teithio y tu allan i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio barn Arweinwyr Cynghorau drwy gydol ei gwaith cynllunio ac rwy'n hyderus y byddwn yn gadael y cyfnod atal i gyfres newydd o fesurau cenedlaethol sydd nid yn unig yn effeithiol o ran atal trosglwyddo'r feirws ond sydd hefyd yn ymarferol ac yn orfodadwy.

 

Mae trigolion y Fro yn haeddu canmoliaeth fawr am y ffordd y maent wedi dod ynghyd unwaith eto i gefnogi ei gilydd.

 

Nid oedd mynd i mewn i gyfnod atal, er ein bod yn gwybod mai dim ond am ddau ddiwrnod ar bymtheg y byddai'n para, yn rhywbeth doedd neb yn ei groesawu. Fodd bynnag, mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gyflwyno cyfnod cloi pedair wythnos ar gyfer Lloegr y penwythnos hwn yn dangos yr oeddwn yn gywir i weithredu'n gynnar yma yng Nghymru.

 

Er ei bod yn rhy gynnar i wybod yn union pa effaith y bydd y cyfnod atal wedi'i chael, gwyddom mai dim ond wrth i bawb lynu wrth y rheolau’n llym am gyfnod llawn y cyfyngiadau y gallwn gael y budd mwyaf posibl.

 

Rydym hanner ffordd drwodd ond gall wythnos wneud gwahaniaeth enfawr. Er y gall fod yn anodd newid y ffordd rydym yn byw ein bywydau a rhoi’r gorau i gyswllt cymdeithasol, rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd a gwneud hynny.

 

Mae tystiolaeth deg diwrnod cyntaf y cyfnod atal yn dweud wrthym fod lefelau cydymffurfio â’r rheolau hyn yn y Fro yn dda iawn ar y cyfan.

 

Yn anffodus, mae rhai nad ydynt yn cydnabod eu cyfrifoldeb cymdeithasol ac sy'n diystyru'r rheolau. Bydd tîm gwasanaethau rheoliadol y Cyngor yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru dros y saith diwrnod nesaf i sicrhau lle bynnag y bydd y rheolau'n cael eu torri, y bydd camau gorfodi yn dilyn.

 

Tan 09 Tachwedd rhaid i bobl ymatal rhag cymysgu ag unrhyw un y tu allan i'w cartref naill ai dan do neu yn yr awyr agored a pharhau i weithio gartref lle bynnag y bo modd. 

 

Er y gall pobl wneud cymaint o ymarfer corff ag y mynnent, gwaherddir pob taith ac eithrio teithiau hanfodol, a bydd pob siop heblaw'r rhai sy'n gwerthu nwyddau hanfodol yn aros ar gau. Yn unol â hyn, bydd llawer o gyfleusterau'r Cyngor megis llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu a gwastraff y cartref yn aros ar gau.

 

Mae ein hysgolion yn ailagor i bob disgybl ysgol gynradd a'r rhai ym mlynyddoedd 7 ac 8 yr ysgol uwchradd yr wythnos hon. Fodd bynnag, bydd disgyblion hŷn yn cael eu haddysgu o'u cartrefi, a dim ond yn mynychu ysgolion ar gyfer arholiadau.

 

Cyfyngir ymweliadau â chartrefi gofal yng Ngwasanaethau Gofal y Fro i ymweliadau hanfodol yn unig.

 

Os byddwch yn arddangos unrhyw un o symptomau’r coronafeirws (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel a/neu golli neu newid mewn arogl neu flas), dylech ynysu ar unwaith. Dylech drefnu prawf a hunanynysu nes i chi dderbyn y canlyniad a chyngor ar beth i'w wneud nesaf. Mae coronafeirws yn hynod heintus ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau nad ydym yn ei ledaenu i eraill. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a threfnu prawf ar wefan Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/coronafeirws.

 

Gwn nad yw'n hawdd byw gyda'r cyfyngiadau. Mae Tîm Cymorth Arwyr y Fro y Cyngor wrth law i gefnogi preswylwyr y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Gellir cysylltu â’r tîm ar 01446 729592.Mae manylion y gwasanaethau cymorth niferus sydd ar gael, gan gynnwys dosbarthiadau archfarchnad a grwpiau cymunedol i'w gweld yn adran Arwyr y Fro ar wefan y Cyngor yn www.bromorgannwg.gov.uk/ArwyryFro.

 

Disgwylir mwy o fanylion am y mesurau cenedlaethol newydd yn ystod yr wythnos. Wrth i’r wybodaeth hon ddod i'r amlwg byddwn yn cynnal adolygiad o holl wasanaethau'r Cyngor er mwyn sicrhau y gallwn eu darparu’n effeithiol o hyd. Byddaf yn rhoi gwybod i'r holl breswylwyr am unrhyw newidiadau pan wneir penderfyniadau.

 

Yn y cyfamser, mae fy neges i chi i gyd yn syml: arhoswch adref ac arhoswch yn ddiogel.