Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Mercher yma (25 Tachwedd), ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o drais gan ddynion yn erbyn menywod.

 

  • Dydd Mercher, 25 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Gwnaeth y Rheolwr Gyfarwyddwr Rob Thomas a’r Cyfarwyddwr Tai a'r Amgylchedd Miles Punter addewid, fel a ganlyn: “Rwy’n addo peidio byth â goddef, cyflawni nac aros yn dawel ynghylch trais gan ddynion yn erbyn menywod”


Mae'r symbol rhuban gwyn yn cynrychioli'r datganiad bod cam-drin, ar pa bynnag ffurf, yn annerbyniol. 


Er mwyn codi ymwybyddiaeth, bydd twnnel Hood Road yn cael ei oleuo'n wyn i nodi'r achlysur.
Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn sefyll, yn siarad ac yn dweud na wrth drais yn erbyn menywod. 


Mae eleni'n bwysicach nag erioed gyda chynnydd sylweddol mewn trais, aflonyddu a cham-drin tuag at fenywod yn ystod pandemig y coronafeirws.


Dywedodd Mr Thomas: "Mae hon yn ymgyrch bwysig sy'n ceisio cydnabod y broblem o drais gan ddynion yn erbyn menywod.


"Rydyn ni'n gwybod bod ymddygiad o'r fath wedi cynyddu oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws gan fod rhaid i lawer o fenywod aros gartref gyda dynion sy'n cam-drin oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws.


"Fel Cyngor, mae'n bwysig ein bod yn dangos ein cefnogaeth i fenter mor werth chweil ac roeddwn yn falch o allu nodi fy nghefnogaeth i'r achos ac annog eraill i sefyll yn erbyn trais o’r fath”