Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn datgelu cynlluniau i adeiladu llety i'r digartref

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi datgelu cynlluniau i adeiladu 11 uned o lety dros dro fel rhan o gynllun gwerth £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd.

 

  • Dydd Llun, 23 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



 Wedi'i leoli ger y Safle Amwynder Dinesig yn Court Road yn y Barri, mae'r datblygiad yn rhan o'r ymateb i gynnydd mewn digartrefedd a achoswyd gan y pandemig Covid-19.
 
Y gobaith yw y gall y project leihau'r ddibyniaeth ar lety brys.
 
Defnyddir paneli wedi'u hinswleiddio o ansawdd uchel i greu unedau hunangynhwysol sy'n cynnwys lolfa/stafell fwyta/cegin, ystafell wely sengl neu ddwbl ar wahân ac ystafell gawod en-suite.
 
Maent yn cynnwys ardal fach breifat â lloriau pren y tu blaen i’r unedau, tra bod cynlluniau hefyd ar gyfer ardal gyhoeddus, maes parcio a lle i gadw beiciau.
 
Mae cam cyntaf y project yn golygu dymchwel yr adeilad gwag ar y safle a gobeithir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Ers i'r pandemig daro, rydym wedi helpu cannoedd o bobl y mae digartrefedd yn effeithio arnynt drwy ddarparu unedau ychwanegol o lety brys mewn Gwestai a lleoliadau Gwely a Brecwast i sicrhau nad oes neb heb gartref na lle diogel i aros. Mae hynny'n ychwanegol at y 120 o unedau o lety dros dro presennol y mae'r Cyngor yn eu darparu fel arfer.
 
"Rydym hefyd wedi bod yn gyfrifol am gydlynu gwasanaethau i bobl ddigartref ledled y Fro a sefydlu grŵp Cydlynu Digartrefedd i gyfarwyddo gweithgarwch. Rydym hefyd wedi sefydlu cynlluniau llety â chymorth gyda landlordiaid preifat ac wedi addasu rhai o'n tai presennol.   
 
"Mae adeiladu'r unedau hyn yn cynrychioli llinyn arall o gymorth sydd ar gael. Dylai'r datblygiad hwn roi lleoedd diogel, modern a chyfforddus i bobl aros am gyfnod estynedig."