Cost of Living Support Icon

 

Tad i siarad am lofruddiaeth ei ferch gan stelciwr yn ystod yr Wythnos Diogelu Genedlaethol

BYDD Clive Ruggles yn cyflwyno sgwrs am stelcian a rheolaeth drwy orfodaeth, mater a arweiniodd at lofruddiaeth ei ferch, fel rhan o raglen o ddigwyddiadau a drefnir gan Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro

 

  • Dydd Llun, 16 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Yn ystod yr Wythnos Diogelu Genedlaethol, cyfnod o bum niwrnod sy'n dechrau o ddydd Llun, Tachwedd 16, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau fydd yn canolbwyntio ar y thema allgáu cymdeithasol eleni.


Mae 'Fy Merch Alice' yn adrodd hanes Alice Ruggles, a lofruddiwyd mewn amgylchiadau erchyll gan gyn-gariad yn 2016, yn dilyn stelcian dwys.


Bu ymchwiliad yr heddlu i achos Alice yn destun rhaglen ddogfen ITV, 'An Hour to Catch a Killer', a rhaglen Channel 5, 'Murdered by my Stalker', tra bod ei stori hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau radio a theledu.


Ynghyd â'i wraig Sue, ffrindiau ac aelodau eraill o'r teulu, sefydlodd Clive Ymddiriedolaeth Alice Ruggles, sy'n ceisio tynnu sylw at y methiannau a arweiniodd at farwolaeth Alice ac atal trychineb tebyg rhag digwydd eto.


"Rydyn ni’n teimlo y gellid bod wedi osgoi marwolaeth Alice," meddai Clive.


"Felly, ar y naill law, mae Ymddiriedolaeth Alice Ruggles yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth ymhlith dioddefwyr stelcian a rheolaeth drwy orfodaeth, fel eu bod yn ceisio cymorth ac yn mynd i'r heddlu yn llawer cynharach na'r rhan fwyaf o bobl - yn sicr yn llawer cynharach nag y gwnaeth Alice.


"Ochr arall y geiniog yw bod yn rhaid i ni addysgu'r heddlu, ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill yn y gwasanaeth cyfiawnder troseddol a chymorth, fel bod 'y system' yn ymateb yn y ffordd gywir pan ddaw dioddefwr atynt.


"Un o'r prif broblemau fu methiant i 'gysylltu’r dotiau' a gweld patrwm o ymddygiad sy'n gyfystyr â stelcian. Un arall, pan gydnabuwyd stelcian fel trosedd benodol yn y DU o’r diwedd yn 2012, oedd y ffordd y cafodd ei hatodi i gyfraith sy'n bodoli eisoes ar aflonyddu. 


"Am y rheswm hwn, roedd troseddau stelcian yn aml yn cael eu cofnodi a'u herlyn fel aflonyddu, nad yw'n cynnwys yr elfennau o obsesiwn ag unigolyn sy'n gwneud stelcian mor ddifrifol.

 

Alice

"Y drydedd broblem yw diffyg dealltwriaeth eang - ymhlith gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd yn gyffredinol - o'r risgiau difrifol iawn sy'n gysylltiedig â mathau penodol o stelcian a'r angen i reoli'r rhain yn effeithiol drwy ddulliau amlasiantaethol priodol."


Drwy ei sgwrs, mae Clive yn dweud stori Alice, gan symud o'r personol i'r ffordd yr ymdriniwyd â'i hachos, gan ganolbwyntio ar y gwersi y mae angen eu dysgu.


Mae'n datgelu'r cynnydd sydd wedi'i wneud dros y pedair blynedd ddiwethaf ac yn ymhelaethu ar nodau a llwyddiannau'r Ymddiriedolaeth.


"Wrth adrodd stori Alice, rwy'n tynnu sylw at bedwar peth yr hoffwn eu gweld yn newid," meddai Clive.


"Mae rhai pethau'n sicr wedi newid yn y pedair blynedd ers marwolaeth Alice: er enghraifft, nid yw'r heddlu bellach yn defnyddio Hysbysiadau Gwybodaeth yr Heddlu (HGHau) mewn achosion stelcian.

 

"Mae hyfforddiant ar draws llawer o asiantaethau wedi canolbwyntio ar yr angen i gydnabod stelcian am beth yw e, gan beidio â’i ystyried fel aflonyddu - mae'r ymgyrch FOUR wedi bod yn bwysig iawn yn hyn o beth: os yw'r ymddygiad yn obsesiynol, annymunol ac ailadroddus, yna stelcian yw e. 


"Cam pwysig iawn oedd cyflwyno Gorchmynion Diogelu Stelcian ddechrau'r flwyddyn hon, y mae’n drosedd i’w torri'


"Mae'r ystadegau'n dweud y cyfan. Mae un o bob pum menyw, ac un o bob 10 dyn, yn cael eu stelcian rywbryd yn ystod eu hoes. Mae 78 y cant o ddioddefwyr yn arddangos symptomau Anhwylder Straen Wedi Trawma. Mae 94 y cant o lofruddiaethau menywod yn cael eu rhagflaenu gan stelcian. 


"Nid oes digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn. Wrth gwrs, mae hyfforddiant a chyllid yn hanfodol bwysig yn y byrdymor a rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i berswadio asiantaethau i flaenoriaethu gweithredu yn y maes hwn. Ond yn y tymor hwy, mae angen i ni addysgu cenhedlaeth gyfan i gydnabod bod stelcian ymhlith y troseddau difrifol iawn a ddylai ein dychryn pan glywn sôn amdanynt.


"Dyna pam rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion yn Ymddiriedolaeth Alice Ruggles ar godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc: maent nid yn unig yn cynnwys dioddefwyr a throseddwyr posibl ond hefyd llunwyr polisi, yr heddlu, cyfreithwyr, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd y dyfodol. Dim ond pan fydd pawb yn cydnabod stelcian am y drosedd erchyll yw hi y gallwn obeithio ddod â hyn i ben."

Mae Clive Ruggles yn Athro Academaidd ac Emeritws ym Mhrifysgol Caerlŷr sydd ag arbenigedd mewn archaeoseryddiaeth, cymysgedd o archaeoleg a seryddiaeth.


Mae wedi gwneud nifer o ymddangosiadau ar raglenni teledu fel 'The Sky at Night', 'Meet the Ancestors' a 'Time Team'.