Cost of Living Support Icon

 

Lansio’r cynllun cyntaf yng Nghymru i rannu e-feiciau ymhlith y cyhoedd ym Mhenarth

Mae'r cynllun cyhoeddus cyntaf yng Nghymru i rannu beiciau trydan wedi'i lansio ym Mhenarth gan y gweithredwr rhannu beiciau byd-eang nextbike, diolch i gyllid gan Gyngor Bro Morgannwg. 

 

  • Dydd Gwener, 13 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg

    Penarth



Lansiwyd y fflyd o 50 o e-feiciau a phum gorsaf ar ddydd Iau 12 Tachwedd.


Derbyniodd Cyngor y Fro nifer o geisiadau gan y cyhoedd i gyflwyno ei gynllun ei hun yn dilyn llwyddiant ysgubol y cynllun llogi nextbike yng Nghaerdydd, sydd wedi gweld beiciau’n cael eu rhentu dros 892,525 o weithiau ers ei lansio yn 2018.


Wedi i bobl ddechrau defnyddio fflyd Penarth, y gobaith yw y bydd yn helpu i leihau tagfeydd a lefelau CO2, yn ogystal â bod o fudd i iechyd y cyhoedd.

 

nb1

Ac fel hwb i'r GIG lleol, mae staff sy'n gweithio yn Ysbyty Llandochau yn cael cynnig aelodaeth am ddim gyda’r cynllun.


Er mai dim ond o orsafoedd Penarth y gellir rhentu beiciau Penarth ar hyn o bryd, a’u dychwelyd yno, yr uchelgais yn y pen draw yw cysylltu'r cynllun â fflyd nextbike Caerdydd, sy'n golygu y bydd cymudwyr yn gallu defnyddio'r e-feiciau i wneud y daith rhwng y dref a'r ddinas yn rhwydd. Mae e-feic yn gyfuniad o feic confensiynol a modur sy'n golygu bod angen ymdrechu llai i bedlo.

 

Gyda chyflymder uchaf o 25km yr awr, gall yr e-feiciau deithio’n bellach mewn llai o amser a gyda llai o ymdrech na beiciau confensiynol.Mae’r gorsafoedd yn yr Esplanade, Ysbyty Llandochau, Windsor Road, Gorsaf Drenau Penarth a'r Morglawdd. 


Bydd rhentu e-feic yn costio £1 am 30 munud i gwsmeriaid sydd ag aelodaeth fisol neu flynyddol neu £2 am 30 munud ar sail talu wrth ddefnyddio. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:  "Rwy'n falch iawn mai ni yw'r Cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno beiciau trydan cyhoeddus. "Ar ôl datgan argyfwng hinsawdd gynharach eleni, mae'n hanfodol ein bod ni fel Cyngor yn parhau i gefnogi dulliau trafnidiaeth llesol a chynaliadwy. Mae'r beiciau'n syml i'w defnyddio ac mae eu tariffau fforddiadwy yn cymharu'n ffafriol â chost teithio mewn car, bws neu drên.


"Bydd y fenter o fudd i iechyd a lles ein cymudwyr a'n trigolion a dylai hefyd fod yn ddeniadol i dwristiaid.  Os bydd hyn yn llwyddiant, gobeithiwn weld y cynllun yn ehangu ymhellach.”  
Dywedodd Krysia Solheim, rheolwr gyfarwyddwr nextbike UK, ei bod yn gyffrous iawn o lansio'r e-feiciau cyhoeddus cyntaf i Gymru. 

 

nbtwo

"Rydym yn falch iawn o lansio'r fflyd ar gyfer pobl Penarth a’r tu hwnt," meddai Ms Solheim. 
"Fel y cyntaf o'i fath yn y wlad, mae'r beiciau hyn nid yn unig yn bwysig i bobl Penarth, maen nhw hefyd yn arwyddocaol o ran arwain y chwyldro rhannu beiciau ledled Cymru.


"Pan gânt eu gweithredu'n briodol, gwyddom fod cynlluniau rhannu beiciau yn dod â manteision mawr, fel y gwelir o'n fflydoedd yng Nghaerdydd ac Abertawe.  Mae'n gyfnod cyffrous i Benarth, ac mae'r diolch i raddau helaeth iawn i’r ffaith fod Cyngor Bro Morgannwg wedi meddwl yn rhagweithiol. 


"Mae ein hymchwil wedi dangos bod llawer o gymudwyr eisoes yn beicio o Benarth i Gaerdydd a'n huchelgais yn y pen draw yw gallu cysylltu'r ddau gynllun.


"Mae e-feiciau nid yn unig yn wych ar gyfer lleihau amser teithio a beicio ar fryniau serth, ond maen nhw hefyd yn ffordd wych o gyflwyno pobl o bob gallu a lefel ffitrwydd i feicio.  A gyda chyfyngiadau Covid yn dal i fod ar waith, mae beicio'n cynnig ffordd berffaith o deithio a chadw pellter cymdeithasol," ychwanegodd.


"Er bod y pandemig wedi gwneud trefniadau logisteg yn anodd, roeddem i gyd yn cytuno ei bod yn bwysig lansio'r cynllun i helpu i gefnogi'r gymuned a darparu opsiwn trafnidiaeth diogel arall."