Cost of Living Support Icon

 

Tîm gofal cymdeithasol arloesol yn datblygu llyfrgell ar-lein yn llawn fideos defnyddiol i gefnogi rhieni ledled y Fro

Mae Gwasanaeth Rhianta’r Fro wedi bod yn gweithio gyda theuluoedd i adeiladu ar eu cryfderau a gwneud newidiadau cadarnhaol ers 2018.

 

  • Dydd Iau, 19 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Gan ganolbwyntio ar hyrwyddo lles emosiynol a chefnogi perthnasau teuluol cadarnhaol, mae’r tîm yn gweithio i helpu rhieni i deimlo’n fwy hyderus wrth reoli ymddygiad, trefnau a ffiniau. 

 
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys tîm bach o saith ymarferydd rhianta, un fydwraig arbenigol i bobl dan 19 oed, gweinyddwr, uwch ymarferydd a rheolwr tîm. Roedd ei waith bob amser yn cael ei wneud wyneb yn wyneb ond oherwydd COVID-19, mae hynny’n amhosibl erbyn hyn. Yn hytrach na gohirio eu gwaith, dechreuodd y tîm feddwl yn greadigol am sut y gallai ddarparu gwasanaeth o ansawdd i rieni ym mhob rhan o’r sir.

Dywedodd rheolwr y tîm, Joanna Card: “Daeth tri gwasanaeth ynghyd i greu un tîm yng Ngwasanaeth Rhianta’r Fro. Roedd y tîm wedi gweithio’n galed i sefydlu ffordd newydd o helpu rhieni ac roedd yr hyn a lwyddon ni i’w wneud ymhen 6 mis yn anhygoel.

   
“Roedden ni wedi arloesi’r gwasanaeth bydwreigiaeth newydd i bobl dan 19 oed ac roedden ni’n dechrau gweld gwahaniaeth go iawn yn cael ei wneud. Wedyn, daeth COVID-19.

  
“Mae’r heriau wedi’u creu gan y pandemig yn amlwg ac mae nifer o sefydliadau’n mynd drwy’r un felin â ni. Roedd ein tîm yn benderfynol o beidio â gadael i’r heriau effeithio ar ei waith.

  
“Roedd yn gweithio’n eithriadol galed ac yn hyblyg er mwyn sicrhau bod gwasanaeth ar-lein ar gael. Mae’r grwpiau rhianta yr oedden ni’n eu cynnal wyneb yn wyneb bellach yn cael eu cynnal yn rhithwir ac mae nifer cadarnhaol o bobl wedi manteisio arnynt. 

 
“Doedd neb yn hoffi’r syniad o recordio eu hunain ond roedden ni’n gwybod mai dyna oedd yr unig ffordd o roi’r cymorth yr oedd ei angen i rieni.  Rydym yn cynnig cyflwyniadau fideo byw ar gyfer ystod eang o bethau ac mae gennym sesiynau wedi’u recordio o flaen llaw sydd wedi’u rhannu gyda rhieni ar-lein.


“Rydym yn dal i gynnig cymorth un i un a chymorth grŵp, ond mewn ffordd wahanol, ac rydym wedi adeiladu ar ystorfa o adnoddau i rieni a fydd yn ddefnyddiol am flynyddoedd i ddod.”

Mae llwyddiant y tîm eisoes wedi denu sylw awdurdodau lleol eraill sy’n awyddus i ddysgu sut mae wedi gweithio ac ym mis Hydref eleni, rhoddwyd y tîm ar restr fer yng Ngwobrau Anrhydeddu mawr eu bri Gofal Cymdeithasol Cymru.


Mae Gwasanaeth Rhianta’r Fro’n gweithio mewn partneriaeth â llawer o dimau eraill yn adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg, fel FACT, y Gwasanaeth Lles Ieuenctid a’r Gwasanaethau Plant.


Gall unrhyw un ffonio Llinell Gymorth Teuluoedd yn Gyntaf. Dyma’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhieni, gofalwyr neu weithwyr proffesiynol yn y Fro sy’n chwilio am gyngor neu gymorth neu sydd am wneud atgyfeiriad.  

 

Llinell Gymorth Teuluoedd yn Gyntaf