Cost of Living Support Icon

 

Ysgol gynradd Palmerston yn sicrhau nawdd chwaraeon gan fusnes ffitrwydd a lles

Bydd timau chwaraeon yn Ysgol Gynradd Palmerston yn cael eu noddi gan Forces Fitness Ltd ar ôl i athrawon helpu i ddatblygu sesiynau iechyd, lles a gwydnwch wedi eu cyflwyno gan gyn-aelod o’r lluoedd arfog.

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Mae Sean Molino, cyn-hyfforddwr corfforol milwrol gyda Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig, wedi cyflwyno’i ddosbarthiadau ffitrwydd i dros 15,000 o bobl ledled Cymru.
 
Wedi'u creu gyda chymorth Ysgol Gynradd Palmerston yn y Barri, nod y sesiynau yw mynd i'r afael â chyfradd gynyddol gordewdra yn y DU, sy'n rhoi cryn straen ar y GIG, drwy annog plant i ffwrdd o sgriniau cyfrifiadurol a thuag at ymarfer corff.
 
Mae'r sesiynau'n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a ffitrwydd y rhai sy'n mynychu, gan ei gwneud yn haws iddynt ddelio ag effeithiau Profiadau Negyddol yn ystod Plentyndod.
 
Maen nhw’n canolbwyntio ar addysgu'r rhai sy’n mynychu drwy rannu cynghorion iechyd a maeth hawdd eu dilyn, gyda chyfuniad o theori a gweithgarwch ymarferol yn yr awyr agored neu mewn neuaddau chwaraeon.
 
I ddathlu ei 130ain ymweliad ag ysgol, mae Sean wedi penderfynu noddi citiau chwaraeon Ysgol Gynradd Palmerston, y man lle dechreuodd y cyfan.

Dywedodd y Cynghorydd Rachel Nugent-Finn, Aelod Cyngor Bro Morgannwg dros Ward Cadog: "Dechreuodd fy niddordeb yn Forces Fitness dro yn ôl. Roeddwn i’n gallu gweld ymroddiad Sean, ei sgiliau unigryw a'r awydd enfawr i ysgogi pobl ifanc, plant, grwpiau cymunedol a sefydliadau, a’u hannog i gymryd rhan - a bod yn iachach wrth gwrs.
 
"Mae buddsoddi yn ein hiechyd ni ac yn iechyd, hapusrwydd a dyfodol ein plant yn hollbwysig.
 
"Fel Cyn-gadeirydd y Pwyllgor Byw'n Iach a Gofal Cymdeithasol rwyf wedi gwrando ar gyflwyniadau di-ri’ ar Brofiadau Plentyndod Negyddol a'r cyswllt sydd rhyngddyn nhw a chlefydau cronig."
 
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Aelod dros Ward Cadog a chyn-Lywodraethwr Ysgol Gynradd Palmerston: "Mae ymarfer corff yn bwysicach nag erioed nawr gan ein bod i gyd yn treulio mwy o amser dan do. Mae’n llesol i'r corff, ond mae’n wych hefyd ar gyfer iechyd meddwl, yn enwedig mewn perthynas â Phrofiadau Plentyndod Negyddol.
 
"Mae hyn yn gyfraniad gwych gan Mr Molino ac yn un sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr."