Cost of Living Support Icon

 

Ardal chwarae Treoes i gael ei hadnewyddu'n sylweddol

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn buddsoddi dros £85,000 i adnewyddu ardal chwarae Treoes.

 

  • Dydd Iau, 12 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Yn rhan o waith gwella eang sy'n digwydd mewn safleoedd tebyg ledled y Sir, bydd yr ardal chwarae newydd yn cynnwys amrywiaeth o siglenni, cylchfan sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, dwy uned aml-ddefnydd, si-so, sbringiau, paneli chwarae, mainc picnic, seddi a biniau.
 
Helpodd Cyngor Cymuned Llangan i drefnu ymarfer ymgynghori gyda thrigolion lleol, a gynhaliwyd ar-lein, i sicrhau bod eu barn yn cael ei hadlewyrchu yn y cynllun terfynol.
 
Disgwylir i'r gwaith ddechrau ym mis Ionawr a disgwylir iddo gymryd tua mis i'w gwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: “Bydd y gwaith hwn ym Mharc Treoes yn trawsnewid ardal chwarae hen ffasiwn yn ardal fodern yn llawn o’r offer diweddaraf sy’n addas i blant o oedrannau amrywiol.
 
“Mae hyn yn rhan o raglen waith helaeth sydd wedi gweld ardaloedd chwarae ledled y Fro yn cael eu huwchraddio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.  Dim ond un o nifer o ardaloedd chwarae a fydd yn cael eu diweddaru yn y dyfodol agos yw ardal chwarae Treoes. Mae mor bwysig caniatáu i blant allu chwarae'n ddiogel yn yr awyr agored."