Cost of Living Support Icon

 

Gwaith yn dechrau ar ehangu Ysgol Gynradd Dewi Sant

Mae gwaith wedi dechrau ar adeilad ysgol newydd yn Ysgol Gynradd Dewi Sant yn Nhregolwyn, a fydd yn cynyddu capasiti o 140 i 210 o leoedd.

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Bydd y datblygiad deulawr, a adeiladir ar safle presennol yr ysgol gan y contractwyr ISG Construction, yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, neuadd ar gyfer chwaraeon a bwyta, swyddfeydd, ystafell i staff ac ardaloedd seibiant.
 
O fewn y tiroedd bydd mannau chwarae allanol, caiff coed a blodau eu plannu, a bydd paneli ffotofoltäig o'r radd flaenaf yn ei gwneud yn un o'r ysgolion cyntaf i ganolbwyntio ar ddefnyddio ynni carbon isel.
 
Dylai’r gwaith, sy’n rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor, gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2021 a bydd yn golygu buddsoddiad o £4.435 miliwn.
 
Daw hynny gan Lywodraeth Cymru a chyfraniadau Adran 106 a sicrhawyd gan y Cyngor o ddatblygiadau cyfagos.
 
Mae'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn gynllun gwella hirdymor fydd yn cynnwys buddsoddiad o £135 miliwn i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylcheddau dysgu modern.
 
Cynhaliwyd seremoni gosod y garreg gopa, hen draddodiad sy’n cynnwys rhoi cangen coeden neu gangen ddeiliog ar drawst pren neu haearn uchaf adeilad, yn aml gyda fflagiau a rhubanau wedi’u clymu wrtho, yn ddiweddar yn yr ysgol.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, y Cynghorydd Lis Burnett: “Bydd ehangu Ysgol Gynradd Dewi Sant yn galluogi’r disgyblion i fanteisio ar gyfleusterau gwell a mwy modern a fydd yn gwella eu profiad dysgu. Bydd hefyd gyfleusterau ychwanegol er mwyn ateb y cynnydd a ragwelir yn y galw am leoedd ysgol.
 
“Dyma’r project diweddaraf yn ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – corpws o waith pellgyrhaeddol sydd â’r nod o drawsnewid cyfleusterau addysgol ar draws y Fro.”

Ewch i dudalen Manteision Cymunedol y Cyngor i ddysgu sut mae cynllun Ysgolion Cynradd Gorllewin y Fro’n creu manteision ychwanegol ar gyfer bro Morgannwg ehangach a chael gwybod am y cyfraniadau mewn nwyddau a’r cymorth sydd ar gael.