Cost of Living Support Icon

 

Gwaith ar ysgol ddi-garbon gyntaf Bro Morgannwg yn dechrau

Ysgol Gynradd Llancarfan fydd un o'r ysgolion carbon sero-net cyntaf yng Nghymru pan fydd cynllun gwerth £5 miliwn i adeiladu adeilad newydd yn cael ei gwblhau.

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Mae hynny'n golygu y bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael eu lleihau'n sylweddol a bod unrhyw allyriadau sy'n weddill yn cael eu gwrthbwyso, gan niwtraleiddio effaith amgylcheddol yr ysgol.
 


Dechreuodd y contractwyr ISG weithio ar y cynllun yn ddiweddar, a bydd yr ysgol yn symud i safle newydd yn y Rhws gyda chapasiti ar gyfer 210 o ddisgyblion a 48 o leoedd meithrin rhan-amser.
 
Bydd yr addysgu'n cael ei gynnal mewn ystafelloedd dosbarth ar ddau lawr, ac mae’r prosiect hefyd yn cynnwys prif neuadd ar gyfer chwaraeon a bwyta, swyddfeydd, ystafell staff ac ardaloedd ymlacio.
 
O fewn y tiroedd bydd mannau chwarae, ardal gemau aml-ddefnydd (AGADd) ac ardaloedd gwyrdd sy'n cynnwys blodau a choed.
 
Mae'r gwaith yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, cynllun gwella hirdymor fydd yn cynnwys buddsoddiad o £135 miliwn i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylcheddau dysgu modern.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio ac Addysg: "Mae'r adeilad ysgol newydd hwn yn ehangu ysgol gynradd brofiadol a gofalgar. Bydd yn darparu amgylchedd dysgu modern yn ogystal â chyfleusterau i'r gymuned.

 
"Bydd yn un o'r ysgolion carbon niwtral cyntaf yng Nghymru a bydd yn ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad hinsawdd.
 
“Bydd yr ehangiad hwn yn ymestyn ystod oedran yr ysgol o 4-11 i 3-11 a dyma’r project diweddaraf yn ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – corpws o waith pellgyrhaeddol sydd â’r nod o drawsnewid cyfleusterau addysgol ar draws y Fro.”
 
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, "Mae ein Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif yn arwain y ffordd gyda phrosiect ysgol gynradd Llancarfan, ac rwyf mor falch bod Bro Morgannwg yn cefnogi gweithredu Cynllun Cyflawni Carbon Isel newydd Llywodraeth Cymru.
 
"Mae mor bwysig ein bod yn gweithredu nawr i sicrhau bod cynigion ein hysgolion yn cefnogi'r gwaith trosfwaol tuag at fod yn genedl carbon isel.  Mae hefyd yn bwysig cydnabod nad yw darparu ein hadeiladau ysgol a choleg gyda phartneriaid yn ddigon i gyrraedd ein dyhead carbon sero-net; mae'r bobl sy'n gweithio ac yn dysgu yn ein hysgolion a'n colegau hefyd yn allweddol i'n llwyddiant; mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae. Mae'n amlwg y bydd yr hyn a wnawn nawr yn effeithio ar yr amgylchedd a fydd gennym i genedlaethau'r dyfodol fyw, dysgu a gweithio ynddo, a dyna pam mae'n bwysig ein bod yn sicrhau ein bod yn cynnwys ein staff, ein plant a'n dysgwyr ifanc nawr.
 
"Rwyf wrth fy modd bod tîm y prosiect wedi datblygu adnoddau addysgu a fydd yn rhoi cipolwg ar yr agenda carbon sero-net, sydd ill dau'n gysylltiedig â'n cwricwlwm ac sy'n darparu cyswllt pendant rhwng y dechnoleg yn eu hysgol newydd a sut mae hyn yn effeithio ar yr amgylchedd o'u cwmpas.  Am ffordd wych o ddysgu!"