Cost of Living Support Icon

 

Llwybr Celf y Cyfnod Clo i redeg dros yr hanner tymor

Bydd Grŵp Celf Dinas Powys yn cynnal Llwybr Celf y Cyfnod Clo i breswylwyr lleol o ddydd Sadwrn, 24 Hydref i ddydd Sul, 01 Tachwedd.

 

  • Dydd Mercher, 21 Mis Hydref 2020

    Bro Morgannwg



Tutenkhamun ArtBydd y gystadleuaeth yn cynnwys 70 o weithiau yn cael eu harddangos ffensys, gatiau, waliau ac mewn ffenestri siopau sy’n cwmpasu tair milltir o'r pentref.


Y nod yw dod o hyd i lythyren ar bob un o'r 70 o ddarnau, gan eu hail-drefnu i lunio ymadrodd. Yna bydd cyfranogwyr yn cael eu cynnwys yng nghystadleuaeth am ddim y Grŵp Celf, gyda'r cyfle i ennill deunyddiau celf.


Bydd deg y cant o'r enillion o unrhyw baentiadau a werthir yn cael eu rhoi i Voluntary Concern Dinas Powys, i ddiolch iddynt am eu gwaith yn cefnogi preswylwyr sy'n agored i niwed.


Mae Grŵp Celf Dinas Powys wedi parhau i gyfarfod drwy gydol y cyfnod clo fwy neu lai, gan archwilio gweithiau artistiaid o Salvador Dali i Kyffin Williams. Hyd yn hyn, mae 400 darn o waith celf wedi'u cynhyrchu gan y 24 aelod, yn amrywio o ddyfrlliwiau, tirweddau lleol a gwaith haniaethol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros y Celfyddydau, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer, "Bydd y llwybr yn gyfle gwych i arddangos gwaith Grŵp Celf Dinas Powys, nad yw eu harddangosfa flynyddol wedi gallu cael ei chynnal oherwydd Covid-19.


"Serch hynny, bydd trigolion lleol yn dal i allu mwynhau gwaith y grŵp, ac yn well byth, bydd yn cynnig rhywfaint o weithgarwch awyr agored y mae mawr ei angen i deuluoedd drwy gydol y gwyliau hanner tymor."


Hoffem atgoffa preswylwyr mai digwyddiad lleol yw hwn, ac oherwydd cyfyngiadau’r Cyfnod Atal ni ddylent deithio o leoliadau eraill i Ddinas Powys i gymryd rhan. Mae map y Llwybr Celf a manylion y gystadleuaeth i'w gweld ar:

 

Dudalen Facebook y Grwp Dinas Powys  

Gwefan Grwp Dinas Powys