Cost of Living Support Icon

 

Arweinydd y Cyngor yn rhoi Datganiad yn dilyn cyhoeddiad cyfnod cloi Llywodraeth Cymru

Y Cynghorydd Neil Moore yn annog preswylwyr i aros gartref ac aros yn ddiogel yn dilyn cyhoeddiad cyfnod atal byr

 

  • Dydd Llun, 19 Mis Hydref 2020

    Bro Morgannwg



Mae'r Prif Weinidog heddiw wedi cyhoeddi y bydd Cymru'n dechrau cyfnod atal byr o 6pm ddydd Gwener nesaf, 23 Hydref am gyfnod o bythefnos mewn ymateb i'r cynnydd parhaus mewn achosion o glefyd coronafeirws ledled Cymru.

 

Bydd y cyfnod atal byr yn dod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd. 

 

O ddydd Gwener, bydd y mesurau cenedlaethol hyn yn disodli'r cyfyngiadau lleol presennol a chynghorir trigolion ledled Cymru i aros gartref unwaith eto oni bai ei bod yn hanfodol peidio â gwneud hynny. 

 

Rwy'n ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi ceisio barn Arweinwyr Cynghorau ar gyflwyno'r cyfyngiadau hyn. Er bod y mesurau cloi lleol ym Mro Morgannwg wedi bod yn effeithiol o ran arafu cyfradd yr haint, rwy’n cefnogi cyflwyno cyfnod byr o gyfyngiadau pellach.

 

Drwy wneud hynny gallwn i gyd helpu i ddiogelu'r GIG ac atal lledaeniad y feirws yn ein cymunedau.

 

Fel y gwelsom yn gynharach yn y flwyddyn, bydd pobl yn gallu gadael y cartref i fynd i weithio os yw'n amhosibl gwneud hynny o'u cartrefi, ar gyfer cyflenwadau hanfodol ac i wneud ymarfer corff a ddylai ddechrau a gorffen adref.Mae'r cyfyngiadau'n golygu y bydd yr holl fusnesau lletygarwch, manwerthu, harddwch a hamdden nad ydynt yn hanfodol ar gau am y cyfnod hwn. 

 

Bydd cymysgu rhwng aelwydydd dan do ac yn yr awyr agored yn cael ei wahardd, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, gan gynnwys ar gyfer oedolion sengl sy'n byw ar eu pen eu hunain neu sy'n aelwyd un rhiant a all ffurfio cartref estynedig dros dro gydag un aelwyd arall.

 

Mae pwysigrwydd cyfyngu amhariad ar addysg ein pobl ifanc yn hanfodol bwysig. I ddisgyblion ym Mro Morgannwg, bydd staff a disgyblion ein hysgolion yn cael eu gwyliau hanner tymor arferol am wythnos o'r dydd Gwener yma. 

 

O'r wythnos yn dechrau ar 2 Tachwedd bydd ysgolion meithrin, cynradd ac arbennig yn ailagor ar gyfer pob disgybl. Ar gyfer ysgolion uwchradd, bydd disgyblion Blwyddyn 7 ac 8 yn mynychu'r ysgol ar gyfer wythnos 2 Tachwedd gyda phob grŵp blwyddyn arall yn dysgu o gartref (ac eithrio disgyblion sy'n mynychu'r ysgol i sefyll arholiadau). Bydd ein cydweithwyr yn yr adran Addysg yn gweithio'n agos gyda phenaethiaid i gefnogi paratoadau ac i sicrhau bod disgyblion a rhieni yn ymwybodol o'r trefniadau ar gyfer eu hysgol. Mae ein hysgolion wedi gweithio'n gyson i ddarparu dysgu ar-lein i'r rhai nad ydynt yn mynychu'r ysgol oherwydd y pandemig a byddant yn parhau i wneud hynny.

 

Bydd yn rhaid lleihau rhai o wasanaethau ein Cyngor am gyfnod byr a bydd yn golygu mai dim ond gwasanaethau hanfodol a ddarperir.

 

Bydd rhai gwasanaethau a oedd wedi ailagor yn yr haf, megis derbynfeydd y Cyngor, llyfrgelloedd a chanolfannau gwastraff ac ailgylchu’r cartref, yn cau dros dro am y cyfnod atal byr.  Bydd yr un peth yn wir am ganolfannau cymunedol. 

 

Bydd ymweliadau â chartrefi gofal yn cael eu cyfyngu i ymweliadau hanfodol yn unig.  

 

Bydd ardaloedd chwarae, parciau gwledig a chyrchfannau (gan gynnwys meysydd parcio) yn parhau i fod ar agor i alluogi pobl sy'n byw'n lleol i wneud ymarfer corff yn lleol. Dim ond trigolion lleol ddylai ymweld â'r rhain yn unol â chyfyngiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

 

Ni fydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn parhau heb effaith arnynt. 

 

Bydd rhagor o fanylion am sut y bydd y cyfyngiadau hyn yn effeithio ar wasanaethau eraill y Cyngor yn cael eu rhannu dros y dyddiau nesaf wrth i'r paratoadau ddechrau er mwyn i'r rheoliadau ddod i rym ddydd Gwener. Bydd gwefan y Cyngor yn cael ei diweddaru i ddangos y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Nid yw hunan-warchod yn cael ei ailgyflwyno ar hyn o bryd ac ni fydd parseli bwyd yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae Tîm Cymorth Argyfwng y Cyngor yn parhau i fod ar gael i gefnogi trigolion sy'n eu cael eu hunain mewn argyfwng. Gellir cysylltu â’r tîm ar 01446 729592. Mae manylion y gwasanaethau cymorth niferus sydd ar gael, gan gynnwys dosbarthiadau archfarchnad a grwpiau cymunedol i'w gweld ar dudalen Arwyr y Fro. 

 

Hoffwn ddiolch yn ddiffuant iawn i drigolion Bro Morgannwg am lynu wrth y cyfyngiadau cloi lleol am y tair wythnos diwethaf. Unwaith eto, gwnaeth eich ymdrechion wahaniaeth gwirioneddol. Apeliaf ar bawb eto yn y Fro i gydweithio yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn i ni allu atal lledaeniad coronafeirws ymhellach ledled Cymru.

 

Am nawr mae fy neges i chi yn syml, arhoswch gartref a byddwch ddiogel.