Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod

Bydd y Lloches Orllewinol ar Ynys y Barri yn cael ei oleuo â goleuadau pinc a glas o'r 9fed i'r 15fed o fis Hydref i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod.

 

  • Dydd Gwener, 09 Mis Hydref 2020

    Bro Morgannwg



Mae wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn digwydd bob blwyddyn ac mae'n gyfle i rieni sy’n galaru, eu teulu a'u ffrindiau i uno ag eraill a choffáu bywydau eu babanod.


Mae nifer o elusennau a sefydliadau sy'n cynnig cymorth i'r rhai y mae beichiogrwydd neu golli babanod yn effeithio arnynt.  Mae'r ymgyrch ymwybyddiaeth hon yn gyfle iddynt uno, cydymdeimlo a chodi arian at ymchwil hanfodol i gamesgor, marw-enedigaethau a genedigaethau cynamserol. 


Ar 15 Hydref anogir y rhai fyddai’n dymuno cymryd rhan i ymuno â 'Thon o Olau' drwy oleuo cannwyll am 7pm a'i adael yn llosgi am awr i gofio pob baban sydd wedi marw. 


Trefnir Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod gan y Gynghrair Ymwybyddiaeth Colli Babanod, dan arweiniad yr elusen farw-enedigaethau a marwolaethau newyddanedigion, Sands. Mae'r gynghrair yn gydweithrediad o fwy na 90 o elusennau yn cydweithio i dorri'r distawrwydd ynghylch colli babanod ac i sbarduno gwelliannau yn y gofal a'r cymorth a gynigir i unrhyw un yr effeithir arnynt gan golli babi. 

 

"Rydym yn gobeithio y bydd gweld lleoliad eiconig yn y Fro wedi'i oleuo mewn pinc a glas yn sbarduno mwy o sgyrsiau am golli babanod.  


"Amcangyfrifir bod 1 o bob 4 beichiogrwydd yn y Deyrnas Unedig yn dod i ben gyda cholled yn ystod beichiogrwydd neu ar enedigaeth. Mae hyn yn drasiedi sy'n effeithio ar filoedd o bobl bob blwyddyn ond nad yw'n hysbys iawn.  Mae cefnogi achosion fel Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn hanfodol bwysig er mwyn rhoi cyfle i rieni a theuluoedd mewn profedigaeth siarad am eu profiad a chodi arian ar gyfer yr elusennau sydd wedi eu cefnogi nhw."  - Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol