Cost of Living Support Icon

 

Y cyngor yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol

Mae’r Cynllun Gwella (Rhan 2) yn nodi cynnydd Cyngor Bro Morgannwg o ran cyflawni’r Amcanion Lles a bennwyd y flwyddyn flaenorol.

 

  • Dydd Mercher, 21 Mis Hydref 2020

    Bro Morgannwg



Mae’r adolygiad blynyddol o’r cynnydd ar gyfer y cyfnod 2019/20 wedi’i ysgrifennu yn ystod cyfnod heriol a digyffelyb, lle mae’r Cyngor wedi gorfod ymateb i bandemig byd-eang (COVID-19).

 

Er bod hyn wedi rhoi llawer o bwysau ar wasanaethau ac wedi tarfu’n sylweddol ar y ffordd y darperir gwasanaethau, mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid a gwirfoddolwyr i lywio’r argyfwng.

 

Mae adnoddau wedi’u hailflaenoriaethu, eu hailgyfeirio a’u hailbwrpasu’n effeithiol ar gyfer meysydd sydd eu hangen fwyaf.

 

Mae rhai o brif gyflawniadau’r adroddiad eleni yn cynnwys:

 

  • Mae’r Cyngor wedi cydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru ym mhob un o’i 3,900 o dai cymdeithasol gan fuddsoddi £91,518,000 i gyflawni gwelliannau.
  • Mae'r project gwerth £9m i drosi hen adeilad Sied Nwyddau’r rheilffordd a'r tir cyfagos yn Hood Road, Glannau'r Barri, wedi symud ymlaen yn ystod 2019/20. 
  • Cafodd 70.37% o wastraff y cartref a gasglwyd yn 2019/20 naill ai ei baratoi i'w ailddefnyddio a/neu ei ailgylchu, gan ragori ar y targed cyfredol a statudol o 64% ar gyfer 2019/20. 
  • Yr awdurdod lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru o ran canlyniadau TGAU. Cyflawnodd 27.65% o ddisgyblion blwyddyn 11 bump neu fwy o raddau TGAU A* i C o gymharu â 24.79% yn y flwyddyn flaenorol. Enillodd bron 73% raddau A* i C.
  • Enillodd 100% o’r ysgolion a arolygwyd yn 2019/20 sgoriau rhagorol neu dda mewn perthynas â lles disgyblion a gofal, cymorth ac arweiniad.
  • Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau gweithle cynhwysol ar gyfer pob aelod o staff sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu draws. Mae'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle ar gyfer 2019/20 yn ein rhoi yn hanner uchaf yr holl sefydliadau yn y DU.
  • Lansiwyd gweithdrefnau diogelu newydd Cymru ym mis Tachwedd 2019, dan arweiniad Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro, a Chadeirydd y project oedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg.

Mewn ymateb i’r Pandemig Covid-19:

  • Rhoddodd y Cyngor gynnydd cyflog o 10% i weithwyr allweddol, yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hyn.
  • Sefydlwyd Tîm Cymorth Argyfwng yn Cyswllt Un Fro a gysylltodd â 4,440 o’r trigolion mwyaf agored i niwed ac a drefnodd i 568 o barseli gael eu danfon bob wythnos i’r rhai oedd yn hunan-warchod. 
  • Lansiwyd gwefan Arwyr y Fro ar y cyd â Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg i helpu i gydlynu gwirfoddoli mewn cymunedau a pharu’r rheiny sy’n cynnig cymorth â’r rheiny sydd mewn angen. Mae 118 o sefydliadau cymorth bellach wedi’u rhestru ar y wefan.
  • Sefydlwyd Cronfa Argyfwng Arwyr y Fro newydd i gynnig grantiau o hyd at £3,000 i grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol, cynghorau tref a chymuned a busnesau cymwys.
  • Mae’r Cyngor hefyd wedi cyflwyno system trefnu ymweliadau â Safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref er mwyn eu galluogi i ailagor yn ddiogel.
  • Ehangwyd y Gwasanaethau Llyfrgell ar-lein er mwyn galluogi pobl i fanteisio’n fwy ar ddeunyddiau. 
  • Sefydlwyd hefyd Wasanaeth ‘Clicio a Chasglu’ i fenthyg llyfrau, llyfrau llafar a DVDs. Mae llawer o wasanaethau eraill fel grwpiau darllen hefyd yn ddigidol erbyn hyn.
  • Prosesodd y Tîm Dysgu a Sgiliau fwy na 3,000 o dalebau bwyd bob pythefnos sy’n dangos bod 96% o’r bobl sy’n gymwys i gael talebau bwyd wedi’u cael yn electronig. Cynyddodd y galw yn ystod y cyfnod cloi gan 161 o hawlwyr ychwanegol. 

I gael mwy o wybodaeth darllenwch y crynodeb o’r adroddiad neu’r adroddiad llawn.

 

Crynodeb o'r adroddiad

Yr adroddiad llawn