Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn goleuo Twnnel Hood Road yn y lliwiau holl-Affricanaidd, sef coch, melyn a gwyrdd, i nodi Mis Hanes Pobl Dduon

 

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Hydref 2020

    Bro Morgannwg



Mae Mis Hanes Pobl Dduon, sy'n rhedeg trwy gydol mis Hydref, yn ddathliad cenedlaethol sy'n hyrwyddo cyfraniadau Pobl Dduon at ddiwylliant Prydain. Mae hefyd yn ceisio annog gwell dealltwriaeth o hanes Pobl Dduon.


Yn gysylltiedig â'r digwyddiad ymwybyddiaeth, lansiwyd project o'r enw 2000 Cenedl: Dathlu Amrywiaeth gan Hanes Pobl Dduon Cymru.

 

hoodroad

Ysbrydolwyd y teitl gan y ffaith fod pobl o dras Affricanaidd a Charibïaidd yn hanu o tua 2000 o wahanol grwpiau ethnig sy’n cynnwys dros 2000 o ieithoedd a llawer o draddodiadau diwylliannol.


Dros y flwyddyn i ddod, bydd y project yn edrych ar ymyriadau, campau addysgol a chyfraniadau arloesol ac yn dathlu'r dreftadaeth hon trwy'r Celfyddydau yng Nghymru.


Bydd manylion digwyddiadau unigol a gwybodaeth arall sy'n ymwneud â Mis Hanes Pobl Dduon yn cael eu rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.


Mae gwefan Mis Hanes Pobl Dduon, www.blackhistorymonth.org.uk hefyd yn cynnwys cyfoeth o adnoddau, gan gynnwys gwybodaeth am Brydeinwyr du amlwg, gan gynnwys:

• Y Fonesig Jocelyn Barrow – addysgwr ac ymgyrchydd gwrth-hiliol a chymunedol.

• Y Farwnes Lawrence – ymgyrchydd, mam Stephen Lawrence, y dyfarnwyd OBE iddi a’i chreu’n Arglwydd am Oes.

• Dr John Anthony Roberts – person cyntaf o dras Affricanaidd i gael ei wneud yn QC yng Nghymru a Lloegr.

• Paul Yaw Boateng – Gweinidog Cabinet Du cyntaf y DU.

• Diane Abbott – y fenyw Ddu gyntaf erioed i’w hethol i Senedd Prydain.

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Rydym yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon bob blwyddyn, ond eleni mae'n debyg bod y digwyddiad yn arbennig o arwyddocaol yng ngoleuni mudiad Mae Pobl Dduon o Bwys.


"Mae pobl o gefndiroedd Affro-Caribïaidd wedi cyfrannu'n fawr at hanes y wlad hon, gan helpu i lunio'r genedl amrywiol, fywiog sydd ohoni erbyn hyn.


"Yn y Fro rydym hefyd yn falch o fyw mewn amgylchedd cynhwysol, amlddiwylliannol. Mae'n bwysig dathlu'r ffaith honno a chydnabod yr holl wahanol linynnau sy'n gwneud ein cymunedau mor gyfoethog.”