Cost of Living Support Icon

 

Bro Morgannwg yn datgelu cynlluniau ar gyfer Ysgol y Deri 2

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynllunio ateb y galw eithriadol am ddarpariaeth addysg arbennig drwy godi adeilad ysgol gynradd newydd gwerth £11 miliwn ger Penarth.

 

  • Dydd Mercher, 28 Mis Hydref 2020

    Bro Morgannwg

    Penarth



Drwy gyfres tair rhan ddiweddar gan y BBC, A Special School, rhoddwyd golwg i wylwyr ar y gwaith ysbrydoledig sy'n mynd rhagddo yn Ysgol y Deri, yr unig ysgol o'r math hwn yn y Fro.


Dilynodd y rhaglen straeon unigol disgyblion a chyflwyno’r staff ymroddedig sy'n eu helpu i ddysgu a chyflawni.


Cafodd ei chanmol gan y beirniaid am y straeon emosiynol, calonogol a ddogfennwyd, profodd A Special School pa mor fuddiol a phwysig yw Ysgol y Deri.


Ond mae gormod o lawer o geisiadau am le yn yr ysgol, ac mae angen mwy o'r ddarpariaeth bwrpasol hon ar frys i ddarparu ar gyfer y niferoedd mawr sydd ei hangen.

 

YYD1Dywedodd Ysgol y Deri, Chris Britten: "Adeiladwyd Ysgol y Deri chwe blynedd yn ôl. Ers hynny rydym wedi gweld nifer y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cynyddu’n gyson. Erbyn hyn mae gennym dros 300 o ddisgyblion mewn ysgol a adeiladwyd ar gyfer 205. Mae taer angen inni sefydlu adeilad ysgol arall gan ein bod yn disgwyl i'r niferoedd hyn barhau i godi.  


"Rydyn ni'n gwybod y gall y disgyblion hyn ffynnu gyda'r cymorth cywir a'r amgylchedd cywir. Ni all ysgolion prif ffrwd ddiwallu eu hanghenion a dyna lle rydyn ni’n camu i’r adwy.  Ni yw'r unig ysgol arbennig ym Mro Morgannwg felly nid oes unman arall i'r plant hyn fynd – ac eithrio i ardaloedd awdurdodau lleol eraill neu ddarpariaeth breifat a fyddai ar draul enfawr i dalwyr y dreth gyngor.


"Byddai adeilad newydd yr ysgol yn darparu ar gyfer plant oedran cynradd ac yn cael ei adeiladu yn debyg i Ysgol y Deri i ddarparu popeth sydd ei angen ar y plant hyn i fod yn hapusach ac i lwyddo. Mae'n ddatblygiad y mae mawr ei angen i ofalu am ac addysgu’r plant sydd â'r anghenion mwyaf a’r mwyaf cymhleth yn ein cymdeithas."

Er mwyn diwallu'r anghenion hynny, mae'r Cyngor yn bwriadu adeiladu ysgol newydd gyda chapasiti ar gyfer 150 o ddisgyblion cynradd ar dir ger Parc Gwledig Cosmeston.


Gallai hon agor ym mis Medi 2023 a gweithredu fel ail safle ar gyfer Ysgol y Deri.


Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion yn cychwyn cyn bo hir.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Drwy raglen ddogfen wych y BBC yn ddiweddar, rydyn ni i gyd wedi gweld pa mor hanfodol yw addysgu a chymorth arbenigol i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig ac mae'n hanfodol ein bod yn darparu'r amgylchedd sydd ei angen ar bob plentyn yn y Sir.


"Mae staff Ysgol y Deri yn gwneud gwaith gwirioneddol anhygoel ac fel Awdurdod Lleol rydym yn wirioneddol ddiolchgar am yr ymdrechion hynny. Ond mae angen y cyfleusterau cywir ar y disgyblion hefyd i gyrraedd eu llawn botensial.


"Ar hyn o bryd, mae angen dybryd am fwy o ddarpariaeth addysg arbennig yn y Fro, a dyna pam rydym am adeiladu'r adeilad ysgol gynradd newydd hwn ar gyrion Penarth.


"Bydd buddsoddiad sylweddol o £11 miliwn yn ein helpu i greu cymuned ddysgu o'r radd flaenaf i helpu'r rhai sy'n mynychu i ragori."