Cost of Living Support Icon

 

Cymeradwyo cynlluniau i ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi caniatâd cynllunio i adeiladu ysgol newydd yn Ysgol Gynradd Dewi Sant yn Nhregolwyn, gan gynyddu capasiti o 140 i 210 o leoedd.

 

  • Dydd Llun, 28 Mis Medi 2020

    Bro Morgannwg

    Rural Vale



Dylai’r gwaith, sy’n rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor, gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2021 a bydd yn golygu buddsoddiad o £4.185 miliwn.


Daw hynny gan Lywodraeth Cymru a chyfraniadau Adran 106 a sicrhawyd gan y Cyngor o ddatblygiadau cyfagos.


Mae'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn gynllun gwella hirdymor sydd wedi'i gynllunio i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylcheddau dysgu modern.

 

St Davids Photo

 Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, y Cynghorydd Lis Burnett: "Bydd ehangu Ysgol Gynradd Dewi Sant yn rhoi cyfleusterau gwell a mwy modern i ddisgyblion a fydd yn gwella eu profiad dysgu. Bydd hefyd yn darparu cyfleusterau ychwanegol i fodloni'r cynnydd a ragwelir yn y galw am leoedd mewn ysgolion.


“Dyma’r project diweddaraf yn ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – corpws o waith pellgyrhaeddol sydd â’r nod o drawsnewid cyfleusterau addysgol ar draws y Fro.”