Cost of Living Support Icon

 

Cyhoeddi buddsoddiad i helpu adferiad canol trefi'r Fro yn sgil Covid-19

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno ar becyn buddsoddi i gefnogi'r gwaith o adfer canol ein trefi yn y Barri, y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth, yn dilyn cyfarfod ar 21 Medi, 2020.

 

  • Dydd Llun, 28 Mis Medi 2020

    Bro Morgannwg



Bydd y buddsoddiad o dros £400,000 yn helpu i gyflawni mesurau sy'n hwyluso masnach ac adferiad economaidd; ac yn darparu amgylchedd mwy diogel a chroesawgar i ymwelwyr, siopwyr a gweithwyr yng nghanol ein trefi. 

 

Mae'r Cyngor wedi comisiynu ymgynghorwyr dylunio trefol Roberts Limbrick i ddatblygu cyfres o opsiynau ar gyfer gwelliannau i ardaloedd cyhoeddus gan ganolbwyntio ar ardaloedd siopa'r Stryd Fawr/Broad Street a Heol Holltwn yn y Barri a'r prif ardaloedd siopa yn y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth.  Bwriedir i’r projectau gael eu cyflawni erbyn diwedd mis Mawrth 2021.
 
Mae'r buddsoddiad hwn yn mynd law yn llaw ag ymgyrch farchnata strategol sy’n cael ei lansio'n fuan, y mae annog dinasyddion i gefnogi ein busnesau yng nghanol ein trefi drwy siopa'n lleol ac yn ddiogel yn amcan allweddol iddi.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi hwb i ganol ein trefi ac mae i’w  groesawu’n fawr wrth i ni lywio ein ffordd drwy’r cyfnod adfer wedi Covid-19.   Mae canol ein trefi wrth galon ein cymunedau lleol ac mae'r buddsoddiad hwn gan Gyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru (Buddsoddiad Adfywio wedi'i Dargedu) yn cydnabod y rôl hollbwysig y maent yn ei chwarae wrth yrru ein heconomi leol."
 
Dywedodd Chris Gentle o Roberts Limbrick: "Rydym yn falch iawn o fod yn cynorthwyo Bro Morgannwg yn y project pwysig hwn.  Mae ein tîm, gan gynnwys Chris Jones a Highgate Transportation, yn gweld cyfle gwirioneddol yma i newid yn gadarnhaol sut rydym yn defnyddio canol ein trefi drwy greu amgylcheddau cerddwyr a mannau cymdeithasol mwy diogel. 

 

"Ein brîff yw nid yn unig i edrych ar y presennol, ond helpu i bennu cyfres o fathau o brojectau a all lywio gweledigaeth a chyfeiriad unrhyw ychwanegiadau a gwelliannau yn yr ardaloedd sydd dan astudiaeth yn y dyfodol."


Bydd rhagor o wybodaeth am y rhaglen fuddsoddi ar wefan y Cyngor a sianelau’r cyfryngau cymdeithasol.