Cost of Living Support Icon

 

Datganiad gan Gyngor Bro Morgannwg

Mae system Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru wedi cadarnhau un achos positif o Covid-19 yn Ysgol Gynradd Dinas Powys

 

  • Dydd Llun, 07 Mis Medi 2020

    Bro Morgannwg

    Dinas Powys



Mae'r ysgol a'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal asesiad risg cynhwysfawr o'r sefyllfa. O ganlyniad, gofynnwyd i staff a disgyblion yn y grŵp blwyddyn perthnasol hunan-ynysu am gyfnod o 14 diwrnod. Bydd yr ysgol yn aros ar agor i grwpiau blwyddyn eraill.

 

Yn ogystal â mesurau ymbellhau cymdeithasol a diogelwch, mae'r ysgol wedi'i glanhau’n drylwyr. Mae swyddogion Profi, Olrhain a Diogelu hefyd yn cyflawni'r holl weithgarwch dilynol angenrheidiol.