Cost of Living Support Icon

 

Cymorth gan dimau cyngor y Fro i deuluoedd agored i niwed dros yr haf 

Fel rhan o'r Grŵp Tactegol Plant Agored i Niwed, trefnodd tîm Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg nifer o weithgareddau i gefnogi teuluoedd drwy gydol gwyliau'r haf.

 

  • Dydd Iau, 03 Mis Medi 2020

    Bro Morgannwg



Yn y project cydweithredol hwn, bu Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, y Tîm Atal a Phartneriaeth, a Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio gyda'r Tîm Chwaraeon a Chwarae i gyflwyno amrywiaeth o brojectau gan gynnwys:

  • Pafiliwn Chwarae'r Fro ym Mryn y Don a chyfleusterau gofal plant eraill ledled y Fro ar gyfer plant oedd wedi eu atgyfeirio gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Clwb Gwyliau Teuluoedd yn Gyntaf ar gyfer plant anabl.
  • Cynllun yr arddegau ar gyfer pobl ifanc anabl, mewn partneriaeth â Phobl yn Gyntaf y Fro. 

Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn gyfnod heriol i lawer ohonom ni, ond mae hynny'n arbennig o wir am deuluoedd â phlant ifanc.
 
"Er mwyn cynnig cymorth, i deuluoedd agored i niwed yn arbennig, daeth timau o wahanol feysydd cyfrifoldeb y Cyngor at ei gilydd i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd seibiant dros gyfnod yr haf.
 
"Rwy'n gobeithio bod y gwahanol gynlluniau wedi bod yn fuddiol a’u bod wedi lleddfu'r pwysau ar deuluoedd yn ystod cyfnod anodd iawn."


Bu Pafiliwn Chwarae'r Fro ar waith am 16 diwrnod, yn groesawu dros 30 o blant rhwng 4 ac 14 oed. 
 
Roedd llawer o'r plant hyn wedi eu nodi’n rhai y gallai’r cyfnod cloi effeithio’n ddifrifol arnyn nhw. 
 
Roedd y sesiynau'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau megis chwarae dŵr, celf a chrefft, chware dychmygus a chwarae rôl, gemau a gweithgareddau chwaraeon.  Cawsai’r plant ginio yna hefyd. 
 
Bu’r adborth gan y plant, y teuluoedd a'r gweithwyr cymdeithasol yn gadarnhaol dros ben. 
 
Cafodd Clwb Gwyliau Teuluoedd yn Gyntaf ei gyflwyno mewn partneriaeth ag Ysgol y Deri ar gyfer plant anabl rhwng pedair ac 11 oed.  
 
Cafodd dros 50 o deuluoedd fudd o'r cynllun, a oedd yn darparu gweithgareddau i'r bobl ifanc yn ogystal â seibiant i'r rhai sy’n gofalu amdanynt. 
 
Heb fynediad i'r ysgol, bu’r cyfnod cloi’n arbennig o heriol i rai teuluoedd, ac i lawer y ddarpariaeth hon oedd y tro cyntaf iddynt adael eu cartrefi ers mis Mawrth.

Bu'r tîm Chwaraeon a Chwarae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â thimau Cymdeithas Tai Unedig Cymru a Heddlu Cymdogaeth De Cymru i ddarparu sesiynau chwaraeon a chwarae mynediad agored i 64 o blant.


Cynhaliwyd y sesiynau deirgwaith yr wythnos dros gyfnod o bedair wythnos. 
 
Cymerodd y cyfranogwyr ran mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gemau gweithgarwch corfforol, adeiladu ffau, chwarae dychmygus a chwaraeon.
 
Cafwyd darpariaeth debyg hefyd mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned y Wig, gyda phedair sesiwn chwaraeon a chwarae ar gyfer teuluoedd wedi eu cynnig, gyda 30 o gyfranogwyr ar gyfartaledd ymhob un.