Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn ariannu projectau cymunedol

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno i ariannu saith project yn dilyn y rownd ddiweddaraf o geisiadau i'w Gronfa Grant Cymunedau Cryf.

 

  • Dydd Iau, 17 Mis Medi 2020

    Bro Morgannwg



Sefydlwyd y gronfa i gefnogi gwaith dichonoldeb, gwella gwydnwch grwpiau a chynorthwyo projectau cyfalaf.

 

Ers ei lansio ym mis Awst 2017, dyrannwyd £781,722 i 56 o fentrau ledled y Sir gyda gwerth cyffredinol dros £2.74 miliwn.

 

Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno ar ddyraniad cyllid newydd o £837,533 ar gyfer y cyfnod o bum mlynedd rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2025 a datgelwyd y projectau cyntaf i gael cyfran o'r arian hwnnw.

 

  • Bydd Sgowtiaid Pen-marc 1af yn y Rhws yn cael £21,750 ar gyfer adnewyddu toiledau a chegin.
  • Roedd Bro Radio yn llwyddiannus â chais gwerth £22,798 i baratoi safle newydd yn Llanilltud Fawr, gan ehangu eu darllediadau i'r Fro wledig.
  • Dyfarnwyd swm o £16,371 i Cadog's Corner, elusen a lansiwyd gan Ysgol Gynradd Tregatwg i drechu tlodi bwyd, ar gyfer adnewyddu toiledau.
  • Bydd clwb tenis y Bont-faen yn elwa o £12,000 tuag at gwrt tenis newydd.
  • Bydd yr ymddirieolaeth Innovate, sy’n rhoi cymorth ac arweiniad i bobl anabl, yn cael £12,198 ar gyfer project cymorth digidol.
  • Bydd neuadd bentref Llandŵ yn cael £20,000 er mwyn helpu i dalu am do newydd.
  • Roedd cais Clwb Criced Corntwn am £14,142 i adnewyddu toiledau hefyd yn llwyddiannus.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Rydym wedi bod yn cydweithio â Sefydliad Waterloo, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg a chynrychiolwyr y Cynghorau Tref a Chymuned i gefnogi cynlluniau a all gael effaith wirioneddol yn eu hardaloedd lleol.

 

"Yn y rownd ariannu ddiweddaraf hon, mae saith project gwerth chweil wedi bod yn llwyddiannus ac rwy'n gwybod y bydd yr arian a dderbynnir yn gwneud gwahaniaeth mawr."