Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn lansio Wifi am ddim

Yn ddiweddar fe wnaeth Cyngor Bro Morgannwg uwchraddio i rwydwaith gwestai diwifr newydd ar draws ei holl adeiladau gan gynnwys llyfrgelloedd a chartrefi preswyl.

 

  • Dydd Gwener, 16 Mis Ebrill 2021

    Bro Morgannwg



Mae'r rhwydwaith newydd yn cynnig darpariaeth gyflymach o 400Mbps, o gymharu â'r lled band cyflymaf blaenorol o 56 Mbps.


Mae cael mynediad i'r rhwydwaith yn anhygoel o hawdd.  Mae defnyddwyr yn dewis yr opsiwn SSID di-wifr ‘Vale free Wifi’ ac yn agor eu porwr rhyngrwyd a byddant yn cael eu hailgyfeirio i ragdudalen. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, y Cynghorydd Lis Burnett: "Dros y 12 mis diwethaf, mae cynhwysiant digidol wedi dod yn bwysicach nag erioed. Rydym i gyd wedi dibynnu ar y rhyngrwyd i weithio, cysylltu â ffrindiau a theulu ac i gael ein diddanu.


"Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, fod mynediad i'r rhyngrwyd, i lawer, yn fraint. Mae digon o breswylwyr na fyddant wedi cael mynediad i'r rhyngrwyd gartref drwy gydol y pandemig. Gyda llyfrgelloedd a chanolfannau ieuenctid ar gau, bydd llawer heb gael mynediad i’r we. 


"Rydym yn falch o lansio'r rhwydwaith gwestai newydd, cyflymach wrth i'n hadeiladau ailagor i'r cyhoedd. Rydym yn gobeithio y bydd yn helpu i gael mwy o bobl yn ôl ar-lein ac yn gysylltiedig."

Mae'r rhwydwaith yn barod i gael mynediad iddo a bydd y rhwydwaith hefyd yn cael ei gyflwyno ym Mhafiliwn Pier Penarth unwaith y bydd y safle hwnnw wedi'i gomisiynu.