Cost of Living Support Icon

 

Mwy o amser i rannu barn ar ddyfodol Pafiliwn Pier Penarth

Mae gan drigolion mwy o amser i rannu eu barn ar ddyfodol Pafiliwn Pier Penarth ar ôl i’r Cyngor ymestyn ei ymgynghoriad cyhoeddus ar y pwnc.

  • Dydd Gwener, 16 Mis Ebrill 2021

    Bro Morgannwg



Yn dilyn ymateb gwych i’r arolwg ar-lein, gyda thros 1,000 o ffurflenni eisoes wedi dod i law, bydd gan drigolion tan ddydd Mercher 21 Ebrill i ddweud eu dweud am sut y gall y pafiliwn weithredu fel ased cymunedol.


Ar ôl cymryd dros y gwaith o weithredu'r adeilad Fictoraidd ddiwedd mis Chwefror, dechreuodd y Cyngor raglen gynhwysfawr o atgyweirio ac adnewyddu.

 

pavilion2

Mae'r Big Fresh Café hefyd wedi agor, sy’n gwerthu amrywiaeth o fwyd a diod gan gyflenwyr lleol, ac mae’r elw'n mynd tuag at ariannu prydau ysgol iach i ddisgyblion y Fro.


Nawr mae’r Cyngor yn gofyn i bobl am eu barn ar sut gall y pafiliwn gael ei ddefnyddio yn y dyfodol.


Mae awgrymiadau'n cynnwys ei gynnig fel gofod lle gellir cynnal cyfarfodydd, sgyrsiau a dosbarthiadau, clybiau cyn ac ar ôl ysgol, fel lleoliad cerddoriaeth fyw, arddangosfeydd, canolfan ar gyfer grwpiau cyngor a chymorth a llawer mwy.


Yn ogystal â chwblhau’r arolwg ar wefan y Cyngor, gall preswylwyr hefyd gymryd rhan drwy ddefnyddio'r blychau 'pleidleisio' y tu mewn i ardal y Big Fresh Café.


Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Bro Morgannwg, "Ar ôl cymryd awenau pafiliwn Pier Penarth yn ddiweddar, aethom ati'n gyflym i asesu cyflwr yr adeilad, trefnu gwaith atgyweirio a threfnu ei lanhau'n drylwyr. Mae caffi sy’n cael ei weithredu gan gwmni arlwyo Big Fresh y Cyngor hefyd wedi agor.


"Mae hwn yn gyfle cyffrous i ailsefydlu'r pafiliwn fel canolbwynt ym Mhenarth ac yn ofod y gall y gymuned gyfan ei fwynhau.


"Mae gennym eisoes nifer o syniadau cyffrous ar gyfer sut gallwn ni gyflawni hynny ond byddem hefyd wrth ein boddau’n clywed awgrymiadau gan breswylwyr wrth i ni ddechrau ar gyfnod newydd i’r adeilad hanesyddol hwn."