Cost of Living Support Icon

 

Rhaglen newydd ac arloesol o ddigwyddiadau ar gyfer Bro Morgannwg

Mae Tîm Digwyddiadau Bro Morgannwg wrthi’n datblygu proses raddol a diogel o ddychwelyd sydd wedi’i chynllunio’n ofalus, gan greu rhaglen o ddigwyddiadau sy’n manteisio ar yr ystod o leoliadau awyr agored ar hyd a lled y Fro. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno cyn gynted ag y mae’r cyfyngiadau’n caniatáu. Bydd pob digwyddiad yn amodol ar ddeddfwriaeth Covid-19 Llywodraeth Cymru ar adeg ei gynnal. 

  • Dydd Mawrth, 13 Mis Ebrill 2021

    Bro Morgannwg



Bydd rhaglen ddigwyddiadau 2021/22 yn edrych yn wahanol iawn i’r gwyliau a digwyddiadau penwythnos traddodiadol y mae’r tîm wedi’u cynnal yn y gorffennol. Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal dros gyfnod hwy; wythnosau a misoedd yn hytrach na 2 neu 3 diwrnod, a byddant bellach yn ddigwyddiadau mwy personol lle caiff nifer y bobl sy’n bresennol eu rheoli, gan fynd y tu hwnt i dymor digwyddiadau traddodiadol y Fro.


Yn seiliedig ar ystod o themâu, mae’r syniadau ar gyfer y rhaglen hon yn cynnwys gŵyl ffilmiau’r Fro, gŵyl goleuadau dinesig, mis cerdded, diwrnodau hwyl a chwaraeon i’r teulu, marathon lluniau a digwyddiadau canol tref. Yn ogystal, rydym yn awyddus i wneud mwy o ddefnydd o’n Parciau Gwledig ar gyfer y digwyddiadau Nadolig, Calan Gaeaf, Pasg ac ati mwy traddodiadol. 


Ac rydym yn awyddus iawn i weithio gyda chi. Rydym yn chwilio am ddarparwyr a sefydliadau profiadol a phroffesiynol sydd â’r capasiti a’r gallu i’n cefnogi ni wrth gynnal ein digwyddiadau, mewn ffyrdd creadigol ac arloesol. Cysylltwch â ni os gallwch chi fod o gymorth.  E-bostiwch cyn dydd Llun 19 Ebrill i gyflwyno eich hun a rhannu manylion ynglŷn â’ch profiad blaenorol o gynnal digwyddiadau arloesol, creadigol ac ymgysylltiol. Yn ddiweddarach y mis hwn rydym yn bwriadu cynnal digwyddiad ar-lein i gyflwyno’r rhaglen a gwahodd unrhyw gwestiynau cyn rhannu manylion y broses gaffael drwy GwerthwchiGymru. 


Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r hyn rydym yn dwlu arno - digwyddiadau ym Mro Morgannwg.