Cost of Living Support Icon

 

Manwerthwyr Stryd Fawr y Fro yn edrych ymlaen at ailagor

Mae masnachwyr y stryd fawr nad ydynt yn hanfodol o bob rhan o Fro Morgannwg wedi mynegi eu cyffro wrth iddynt baratoi i agor eu drysau o ddydd Llun, 12 Ebrill.

 

  • Dydd Gwener, 09 Mis Ebrill 2021

    Bro Morgannwg



Ar ôl bod ar gau ers cyn y Nadolig, mae perchnogion siopau o'r Bont-faen, Penarth, Llanilltud Fawr a'r Barri yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid, hen a newydd, yn ôl am y tro cyntaf ers misoedd.

 

Wrth baratoi i ailagor siopau nad ydynt yn hanfodol, mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog cwsmeriaid i "feddwl yn lleol" a chefnogi strydoedd mawr fel rhan o ymgyrch Canol Trefi'r Fro.

 

Nod yr ymgyrch barhaus yw hybu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi a chefnogi busnesau sy'n adfer o effaith y cyfnod cloi. I lawer o berchnogion siopau, effeithiwyd yn ddifrifol ar fasnach ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020.

Dywedodd Sarah Legg o No. 39 yn y Bont-faen: "Yn No. 39 rydym wedi gwerthfawrogi cefnogaeth ein cwsmeriaid yn ystod y cyfnod cloi, mae wedi golygu llawer iawn eich bod wedi ein cefnogi yn ystod y cyfnod hwn. Allwn ni ddim aros i'ch gweld chi i gyd i ddweud diolch yn bersonol! Byddwn ar agor 7 diwrnod yr wythnos!"

 

Dywedodd Karen o Siop Losin Umpa Lumpa ym Mhenarth: “Diolch am eich cefnogaeth. Mae'r tîm yn siop losin Umpa Lumpa yn gyffrous i groesawu ein cwsmeriaid yn ôl i amgylchedd diogel ond hwyliog! Bydd yn hyfryd clywed y sgwrsio a'r prysurdeb yn Arcêd Windsor."

 

Dywedodd Fay Blakeley o Homemade Wales yn y Barri: "'Rydym yn falch iawn o fod yn ailagor ac yn edrych ymlaen at weld ein holl gwsmeriaid a'n cymuned eto. 

 

"Mae gennym stoc newydd gan ein gwneuthurwyr sefydledig, ac rydym hefyd yn cyflwyno rhai gwneuthurwyr newydd i deulu Homemade Wales. Mae wedi bod yn aeaf hir, ond rydym wedi defnyddio'r amser i atgyfnerthu ein harlwy ar-lein, yn enwedig ein gwasanaeth basged moethus. 

 

"Rydym hefyd wedi creu ardal 'Pantri' ddynodedig newydd mewn ystafell gefn/rhan o'r siop, a fydd yn caniatáu i gwsmeriaid sy’n dod draw i’r siop ddewis eu basgedi eu hunain, a byddwn ni’n eu lapio yn ein gorsaf lapio basgedi newydd."

 

Dywedodd Nia Hollins, Prif Swyddog Twristiaeth a Marchnata Cyngor Bro Morgannwg: "Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar ein bywydau ni i gyd, ond i strydoedd mawr ein cenedl mae wedi bod yn ddinistriol. Mae busnesau sy'n cael eu rhedeg yn annibynnol yn gwbl ddibynnol ar eich cefnogaeth i oroesi – heb hynny ni fydd ein strydoedd mawr byth yn adfer.

 

"Wrth i fanwerthwyr nad ydynt yn hanfodol ailagor yr wythnos nesaf, rydym yn gofyn i bobl leol ddangos eu cefnogaeth lawn i'n strydoedd mawr hanfodol. Byddem yn annog pawb i gefnogi'r ymgyrch hon drwy wneud eu rhan i gefnogi busnesau yn y Bont-faen, y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr. P'un a ydych chi'n siopa am rywbeth mawr neu fach, mae popeth yn helpu. Dangoswch eich cefnogaeth a meddwl yn lleol, maen nhw eu hangen chi nawr yn fwy nag erioed."